Cyngor i ymgynghori ar ysgol SEBD newydd

Bydd Cyngor Blaenau Gwent yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar gynnig i sefydlu ysgol newydd 3-16 oed ar gyfer disgyblion gydag anawsterau cymdeithasol, emosiynol, ymddygiadol a datblygu (SEBD).

Mae Pwyllgor Gwaith y Cyngor wedi cymeradwyo bod y tîm Trawsnewid Addysg yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol helaeth ar y cynnig yr hydref hwn ac yn rhoi adroddiad ar y canfyddiadau yn Ionawr 2017.

Mae'r Cyngor wedi cydnabod yr angen i adolygu darpariaeth ar gyfer disgyblion sy'n cyflwyno gyda SEBD. Cynigir sefydlu ysgol newydd yn defnyddio adeiladau a chyfleusterau presennol yn ardaloedd Glynebwy a Thredegar a byddid hefyd yn cadw elfen o hyfforddiant cartref/yn y gymuned.

Byddai'r ysgol newydd yn cynnig 24 lle parhaol a 40 lle 'gweithdro'. Byddai ganddi ei Chorff Llywodraethu a'i Thîm Arweinyddiaeth ei hun.

Cynhaliodd y Cyngor ymgynghoriad anffurfiol gyda nifer o randdeiliaid yn gynharach eleni, oedd yn cynnwys disgyblion a rhieni, am yr angen am ysgol SEBD ac roedd mwyafrif helaeth yr ymatebion yn dangos fod llawer o angen y ddarpariaeth yn y fwrdeisdref sirol.

Y cynnig yr ymgynghorir arno yw:

  • Sefydlu gosodiad neu ysgol SEBD arbenigol gyda chapasiti ar gyfer 24 lle parhaol
  • Parhau darpariaeth pontio o fewn yr ysgol newydd ar gyfer 40 disgybl gyda golwg ar i'r disgyblion hyn ddychwelyd i addysg brif ffrwd, yn cynnwys cefnogaeth i ysgolion prif ffrwd i'w helpu i gynyddu eu capasiti i weithio gyda disgyblion yn cyflwyno gyda SEBD
  • Darparu hyfforddiant yn y gymuned/cartref ar gyfer 11 ysgol drwy'r ysgol newydd

Dywedodd y Cynghorydd Keren Bender, Aelod Gweithredol dros Addysg y Cyngor:

"Rwy'n falch fod y Pwyllgor Gwaith wedi cymeradwyo ymgynghoriad ffurfiol ar y cynnig i sefydlu ysgol 3-16 ar gyfer disgyblion SEBD yma ym Mlaenau Gwent.

"Mae Estyn, y Cyngor ac - yn bwysicaf oll - rieni disgyblion gydag anghenion penodol i gyd wedi dynodi'r angen am ddarpariaeth o'r fath o fewn y fwrdeisdref sirol a bydd yn awr angen i ni ymchwilio barn y gymuned yn ehangach a rhanddeiliaid eraill.

"Byddai sefydlu ysgol SEBD yn galluogi swyddogion proffesiynol addysg i gymryd dull gweithredu dynodi cynnar pan fo disgyblion yn cyflwyno gyda'r anghenion neiilltuol yma. Mae'n ddull gweithredu hirdymor a chynaliadwy i sicrhau fod gan y disgyblion fynediad i'r addysg, y gefnogaeth bwrpasol a'r sefydlogrwydd maent eu hangen i ddatblygu.

"Byddwn yn gadael i chi wybod yn y dyfodol agos sut y gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a hoffwn annog cynifer o bobl ag sydd modd i gymryd rhan a dweud eu barn."

Bydd yr ymgynghoriad ffurfiol yn dechrau ar 31 Hydref 2016 a bydd amrywiaeth o ffyrdd i bobl ddweud eu barn, yn cynnwys ar-lein.