Cyngor Blaenau Gwent yn paratoi am dywydd gaeafol

Mewn cyfnodau o eira, blaenoriaeth y Cyngor bob amser fydd gwneud yn siŵr fod y priffyrdd yn aros ar agor ac y gellir eu defnyddio ac mae'n graeanu 48% o'r rhwydwaith ffyrdd yn arferol fel rhan o gynnal a chadw y gaeaf. Blaenoriaeth arall y Cyngor yw sicrhau fod gwasanaethau hanfodol a hollbwysig yn parhau i gael eu cyflenwi i aelodau mwyaf bregus y gymuned megis cleientiaid gwasanaethau cymdeithasol a chwsmeriaid pryd ar glud.

Bydd y Cyngor yn gwneud yn siŵr fod yr holl finiau halen yn llawn ar gyfer y gaeaf a gall preswylwyr yn awr ofyn am ail-lenwi biniau neu finiau newydd drwy gofrestru gydag adran 'Fy Ngwasanaethau'. 

Dim ond pan mae'r bin yn llai na thraean llawn y dylid gofyn am ei ail-lenwi. Hefyd, gofynnir i chi sicrhau mai dim ond ar briffyrdd cyhoeddus y defnyddir yr halen hwn ac nid i glirio eiddo preifat - eich cyfrifoldeb chi eich hun yw hynny.

Mewn cyfnodau o dywydd gwael, bydd gwybodaeth ar gau ysgolion a manylion gwasanaethau (megis gwasanaethau cymdeithasol a chasgliadau ailgylchu) ar gael ar y wefan.  Mae pob ysgol yn gyfrifol yn unigol am ddarparu'r wybodaeth yma. Bydd y Cyngor hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf drwy'r cyfryngau cymdeithasol lle'n bosibl.       

Os gallwch, gofynnir i chi gadw golwg ar eich gilydd a gwneud yn siŵr fod cymdogion oedrannus a all fod yn fregus ac ar ben eu hunain yn iawn. Holwch os oes ganddynt fwyd yn y tŷ a'u bod yn cadw'n gynnes yn y tywydd oer. Os ydych yn pryderu'n neilltuol am rywun, cysylltwch â'n Tîm Dyletswydd Gwasanaethau Cymdeithasol ar 01495 315700.  Bydd y galwadau hyn yn cael eu derbyn tu allan i oriau swyddfa hefyd. Fodd bynnag, gofynnir i chi nodi mai ar gyfer argyfyngau mae'r rhif tu allan i oriau.     

Dywedodd y Cynghorydd Haydn Trollope, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd ar y Cyngor:         

“Mae gennym dîm tywydd gaeaf yn cynnwys cynrychiolwyr o feysydd gwasanaeth ar draws y Cyngor sy'n cydweithio i gydlynu ymateb y Cyngor mewn tywydd gwael.      

"Ein prif flaenoriaethau fydd graeanu'r priffyrdd i'w cadw ar agor a sicrhau fod gwasanaethau parhad gwasanaethau hanfodol i'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Gwn y bydd ein staff ymroddedig yn gweithio i wneud yn siŵr fod y gwasanaethau hanfodol yn parhau i gael eu cyflenwi yn ystod tywydd gwael, ond mae hefyd yn bwysig fod cymunedau'n dod ynghyd a helpu ei gilydd. Gallai hyn amrywio o helpu i glirio eira yn eich stryd neu fynd i nôl neges ar gyfer perthynas neu gymydog oedrannus. Gallwch glirio eira ac iâ o balmentydd eich hunan. Mae'n annhebygol y cewch eich erlyn neu eich dal yn gyfrifol os caiff rhywun ei anafu ar lwybr neu balmant os ydych wedi'i glirio'n ofalus. Mae mwy o gyngor ar hyn  ar ein gwefan."