Cyngor Blaenau Gwent yn galw ar breswylwyr i Bod yn Nerthol, Ailgylchwch. A gadewch i ni gael Cymru i’r safle uchaf un!

Efallai mai gwlad fach yw Cymru, ond pan ddaw i ailgylchu, rydym yn taro ymhell dros ein pwysau. Rydym eisoes y wlad trydydd orau am ailgylchu yn y byd a nawr mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cefnogi ymgyrch ar draws Cymru i sicrhau’r safle uchaf un.
Mae ailgylchu wedi cynyddu’n enfawr ym Mlaenau Gwent yn y degawd diwethaf. Rydym yn awr yn ailgylchu tua 65% (adroddiad pwyllgor craffu a gyflwynwyd i’r Cyngor i’w gymeradwyo) o’n gwastraff, lan o ddim ond 48.7% yn 2015-16. Ond os ydym yn helpu Cymru i gyrraedd y safle uchaf mae angen i ni wneud hyd yn oed fwy.


Dywedodd y Cyng Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

“Ailgylchu yw’r peth normal i’w wneud ym Mlaenau Gwent erbyn hyn ac mae’r rhan fwyaf ohonom yn ailgylchu bob wythnos. Rydym yn ailgylchu croen ffrwythau a llysiau, plisgyn wy, bagiau te a gweddillion bwyd yn ein cadis bwyd, yn ailgylchu o bob ystafell yn y cartref ac ailgylchu eitemau anodd fel erosolau gwag.
“Dylem fod yn falch o’n hymdrechion ailgylchu ond mae’n rhaid i ni ddal ati gyda’r gwaith da. Gadewch i ni barhau i ailgylchu popeth a fedrwn o bob rhan o’r cartref a helpu gael Cymru i’r safle uchaf.”
I ddysgu mwy am yr ymgyrch ewch i www.cymruynailgylchu.org.uk

Awgrymiadau gwych ar gyfer cael Cymru i rif un

• Ailgylchu ein gwastraff bwyd yw un o’r ffyrdd hawsaf o roi hwb i’n hailgylchu. Rhowch unrhyw wastraff bwyd – waeth bynnag mor fach ydyw – yn eich cadi gwastraff bwyd i sicrhau ei fod yn cael ei gasglu bob wythnos
• Nid yw ailgylchu’n gorffen ar drothwy’r gegin – cofiwch ailgylchu o ystafelloedd eraill hefyd. Fe fyddech chi’n synnu faint o wastraff o’r ystafell ymolchi, fel poteli siampŵ, cyflyrydd gwallt, sebon dwylo a gel cawod y gellir ei ailgylchu
• Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod bod modd ailgylchu poteli dŵr, caniau, a phapur a cherdyn, ond cofiwch y gallwch ailgylchu eitemau mwy anghyffredin hefyd, fel caniau erosol gwag. Ac os nad ydych chi’n siŵr beth y gallwch ac na allwch ei ailgylchu, ewch i gael golwg ar y Lleolydd Ailgylchu gan Cymru yn Ailgylchu
• Cofiwch wasgu caniau, potiau, tybiau a chynwysyddion i arbed lle yn eich bag, bin, bocs neu gadi ailgylchu. A rinsiwch nhw’n gyflym cyn eu hailgylchu – does dim angen eu dal o dan y tap, bydd eu trochi’n gyflym yn y bowlen golchi llestri yn gwneud y tro
• Er mwyn i Gymru gyrraedd y brig, rhaid inni oll chwarae ein rhan. Mae hynny’n golygu rhannu’r ymgyrch gwych ar y cyfryngau cymdeithasol trwy rannu eich lluniau a’ch awgrymiadau ailgylchu gan ddefnyddio’r hashnod #ailgylchwyrgwych.

I ddathlu safle Cymru yn drydydd yn y byd, mae Cymru yn Ailgylchu yn cydweithio â Bluestone National Park Resort i gynnig cyfle i Ailgylchwr Gwych ennill gwyliau ar gyfer pedwar o bobl. I ddysgu mwy am y gystadleuaeth a’r ymgyrch gwych, ewch i: www.cymruynailgylchu.org.uk