Cyngor Blaenau Gwent yn cefnogi stôr Screwfix gyntaf Glynebwy

Mae Screwfix wedi agor stôr newydd yn Uned A ar Stad Ddiwydiannol Waun-y-Pound, Glynebwy. Screwfix yw manwerthwr aml-sianel mwyaf Prydain ar gyfer offer crefftwyr, ategion a chynnyrch caledwedd. 

Agorodd y stôr yn swyddogol ddydd Iau 9 Mehefin a chafodd benwythnos lansio llwyddiannus gyda channoedd o gwsmeriaid yn awyddus i gael bargen. 

Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent yw perchennog Uned A dan ei bortffolio o unedau diwydiannol  swyddfeydd. Bu Screwfix yn gweithio gydag Uned Datblygu Economaidd y Cyngor i weld yr eiddo a chytuno ar les ar gyfer defnydd. Mae'r cwmni yn fanwerthwr blaenllaw gydag enw brand a bydd yn ychwanegiad gwerthfawr i'r economi leol; caiff 14 o staff eu cyflogi yn y stôr yng Nglynebwy ar hyn o bryd. 

Dywedodd y Cyng Jim McIlwee, Dirprwy Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:

"Rwy'n falch y bu agoriad y stôr newydd yng Nglynebwy yn llwyddiannus. Mae gan y Cyngor ymroddiad i hwyluso menter busnes a chynorthwyo i greu swyddi ym Mlaenau Gwent. Mae'r Uned Datblygu Economaidd yn cynnig ystod eang o wasanaethau i gefnogi busnesau yn yr ardal megis: eiddo busnes ac unedau diwydiannol, grantiau busnes a chyngor. Mae mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael yn www.blaenau-gwent.gov.uk." 

Dywedodd Ricky Jones, Rheolwr Stôr Screwfix Glynebwy:

"Rydym wedi dewis agor stôr newydd yng Nglynebwy gan ei bod yn dref sy'n tyfu gyda phresenoldeb masnach gwych. Roedd llawer o'n cwsmeriaid eisoes yn siopa gyda ni yn ein storau ym Merthyr a'r Coed-duon ac yn falch iawn i'n gweld yma, gan nad ydyn nhw'n gorfod teithio mor bell. 

"Daeth cannoedd o gwsmeriaid yma yn ein cyfnod dathlu, a redodd rhwng dydd Iau 9 Mehefin a drwy gydol y penwythnos tan ddydd Sul 12 Mehefin ac edrychwn ymlaen at groesawu llawer mwy o bobl leol yn y misoedd nesaf. Cawsom gefnogaeth wych gan y gymuned leol sydd i gyd wedi dangos diddordeb mawr yn y stôr. Bu'n gyffrous iawn ein bod eisoes wedi denu pobl i ymweld fwy nag unwaith ac rydym yn mwynhau dod i adnabod cwsmeriaid newydd." 

Ymwelwch â stôr Screwfix Glynebwy yn: Uned A, Stad Ddiwydiannol Waun-y-Pound, Glynebwy, NP23 6PL. Dydd Llun i ddydd Gwener 7am-8pm, dydd Sadwrn 8am-6pm a dydd Sul 10am-4pm. 

Mae mwy o wybodaeth am gymorth busnes a gwasanaethau’r Cyngor ar gael yn

http://www.blaenau-gwent.gov.uk dan adran busnes y wefan. Gellir cysylltu â'r tîm datblygu economaidd ar ffôn: 01495 355700. 

Mwy o wybodaeth am Screwfix

Sefydlwyd Screwfix yn 1979 fel cwmni cyflenwi sgriwiau pren yn Yeovil, Gwlad yr Haf. Un dudalen oedd catalog archebu drwy'r post cyntaf y cwmni, yn cynnwys sgriwiau yn unig. Bellach yn rhan o grŵp Kingfisher, Screwfix yw cyflenwr uniongyrchol ac ar-lein mwyaf Prydain o offer masnach, ategion a chynnyrch caledwedd ar gyfer crefftwyr a DIY. 

Mae'r stôr Screwfix newydd yng Nglynebwy yn rhan o gynllun ehangu stôr genedlaethol y cwmni, ac agorodd y manwerthwr 60 o storau newydd ym Mhrydain yn 2015. Mae'r cwmni yn defnyddio ei fodel manwerthu blaengar ei hun, sy'n anelu i ddarparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid ynghyd â gwerth a chyfleustra. Mae tua 90% o boblogaeth Prydain eisoes o fewn taith 30 munud o stôr Screwfix. 

Agwedd arall o gynllun storau cenedlaethol Screwfix yw bod y cwmni yn dymuno cymryd rhan weithgar gydag elusennau lleol drwy ei adran elusen gofrestredig ei hun - The Screwfix Foundation. Mae'n cefnogi elusennau lleol a phrosiectau cymunedol gyda chyfraniadau ar gyfer prosiectau'n cynnwys gosod, trwsio neu gynnal adeiladau. Mae staff Screwfix yn cymryd rhan uniongyrchol i helpu prosiectau cymunedol a chynnal digwyddiadau elusennol o fewn y storau. 

Mae croeso i elusennau cofrestredig lleol wneud cais am gyllid gan The Screwfix Foundation a gallant alw heibio cangen Screwfix yng Nglynebwy i gael taflen Sefydliad Screwfix i gael mwy o wybodaeht neu gallant lawrlwytho ffurflen gais o www.screwfixfoundation.com