Cyngor Blaenau Gwent yn buddsoddi yn ei Wasanaethau Golwg Strydoedd

Mae'r buddsoddiad yn cynnwys cyflwyno glanhau canol trefi ar ddyddiau Sadwrn, cynyddu capasiti yn y tîm glanhau i lanhau mwy o strydoedd ar draws Blaenau Gwent, gan ganolbwyntio ar godi sbwriel, ysgubo strydoedd a thynnu gwm cnoi.

Penodir tîm ychwanegol o dri i wella glanweithdra mewn strydoedd preswyl a lonau cefn, symud graffiti, pŵer-olchi arwyddion priffyrdd, llochesi bysus a bolardiau golau.

Bydd y tîm glanhau strydoedd hefyd yn gwella'r gwasanaeth baw cŵn, gan weithio gydag aelodau ward i ddynodi ardaloedd problem ar draws y Cyngor i dargedu ymdrechion i glirio a diheintio'r ardaloedd yr effeithir arnynt.

Cytunodd pwyllgor y weithrediaeth hefyd i gynyddu chwistrellu chwyn ar draws yr ardal i dri chwistrelliad y flwyddyn gyda'r nod o ostwng twf chwyn dros gyfnod.

Yn olaf, bydd y Cyngor yn adolygu'r gwasanaeth torri gwair ac yn cyflwyno cynigion pellach i'w hystyried yn yr hydref yn barod i'w gweithredu yn haf 2018/19.

Dywedodd y Cyng Garth Collier, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithrediaeth yr Amgylchedd:


"Rydym wedi gwrando ar yr adborth a gawsom gan y cyhoedd ac mae amgylchedd taclus a glân yn bwysig i bobl Blaenau Gwent. Rydym wedi ymateb i'r adborth hwnnw drwy gytuno i fuddsoddi £158,000 yn y gwasanaeth glanhau strydoedd eleni a byddwn yn monitro a gwerthuso ei effaith dros y flwyddyn."