Cyngor Blaenau Gwent i edrych ar ddatblygiad preswyl posibl ym Maddondy Pen y Pwll

Gellid dod â safle hen Faddondy Pen y Pwll yn Llanhiledd Blaenau Gwent yn ôl i ddefnydd fel tai ar ôl i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent gytuno i ymchwilio opsiynau ar gyfer datblygiad preswyl yn y dyfodol.

Roedd Baddondy Pen y Pwll yn gwasanaethu hen Lofa Llanhiledd a gaeodd yn 1969. Er i’r safle gael ei ddefnyddio’n ysbeidiol gan gwmnïau eraill ar gyfer diwydiant ysgafn, bu’n segur ac yn ddiffaith am tua 30 mlynedd.

Daeth adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan y Cyngor i’r casgliad mai defnydd preswyl oedd yr opsiwn mwyaf realistig ac ymarferol ar gyfer y safle.

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Gweithredol heddiw (dydd Mawrth 8 Medi 2020), rhoddwyd cymeradwyaeth i swyddogion ymchwilio defnydd preswyl ar gyfer y safle fydd yn cynnwys ymgynghoriad llawn gyda phreswylwyr lleol, aelodau etholedig a rhanddeiliaid eraill yn y lle cyntaf. Gellid wedyn baratoi achos busnes yn amlinellu opsiynau cyllid a chaffael y tir, sydd mewn perchnogaeth breifat ar hyn o bryd.

Cafodd y bwriad hefyd ei gefnogi gan aelodau o’r Pwyllgor Craffu Adfywio.

Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Aelod Gweithredol dros Adfywio:

“Rwy’n falch fod cynghorwyr heddiw wedi cefnogi a chymeradwyo cynnig fydd yn ein galluogi i weithio tuag at bosibilrwydd dod â bywyd yn ôl i’r hen safle diffaith hwn yn Llanhiledd, y gwn fu’n ddolur llygad i bobl leol am flynyddoedd lawer. Rydym yn ymroddedig i adfywiad a dyfodol economaidd Blaenau Gwent ac i weithio gyda phartneriaid i ddod â safleoedd segur yn y fwrdeistref sirol yn ôl i ddefnydd y gymuned.

Dyma’r cam cyntaf yn yr hyn a allai fod yn ddyfodol disgleiriach i’r safle a byddwn yn gweithio’n agos gyda phreswylwyr lleol a phartïon eraill â diddordeb wrth i ni ddatblygu’r gwaith hwn.”