Cynghorwyr Blaenau Gwent yn cymeradwyo Cyllideb gytbwys ar gyfer 2018/19

Er gwaethaf gostyngiad o 0.5% mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru (setliad gwaethaf pob un o gynghorau Cymru) a phwysau cost presennol, mae'r Cyngor yn wynebu bwlch cyllido llai o £3.3miliwn. Roedd y bwlch cyllido cychwynnol a wynebai'r Cyngor dros £6 miliwn a lleihawyd y bwlch ariannu hwn yn sylweddol gan y Cyngor drwy iddo adolygu a chytuno ar bolisi ad-dalu benthyciad tymor hir diwygiedig.

Mae'r Cyngor hefyd yn ceisio cyllido pwysau cost o £3miliwn wrth i alw am wasanaethau a gwasanaethau cymdeithasol, yn arbennig, barhau i gynyddu. At ei gilydd, roedd yna gynigion arbedion gwerth £4.2miliwn ar y bwrdd i gynghorwyr asesu a phenderfynu pa rai i'w gweithredu yn ei gyfarfod ddydd Iau, 25ain Ionawr. Er i hyn ganiatáu rhywfaint o hyblygrwydd i'r cynghorwyr, bydd yr arbedion sy'n ofynnol yn golygu gostyngiadau i rifau staff a newid neu atal gwasanaethau.

O dan y Gyllideb gytunedig ni fydd angen i'r Cyngor dynnu o'i gronfeydd wrth gefn cyffredinol er mwyn cydbwyso'r llyfrau a diogelir cyllid Addysg, Gwasanaethau Cymunedol a Gwasanaethau Cymdeithasol, gydag Ysgolion yn gweld cynnydd o 1%. Mae addysg a chodi safonau ar gyfer plant a phobl ifanc yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i'r Cyngor. Byddai'r Cyngor hefyd yn ymrwymo i dalu'r holl staff o leiaf y Cyflog Byw Sylfaenol ac mae cyllid mewn lle i gwrdd â'r cynnig cyflog arfaethedig ar gyfer yr holl staff nad ydynt yn addysgu.

Er na osodir y Dreth Gyngor yn ffurfiol tan fis Chwefror - cytunodd y cynghorwyr gynnydd o 4.2%, gan greu incwm ychwanegol o £1.3miliwn.  Mae bandiau y Dreth Gyngor yn seiliedig ar werthoedd eiddo. Mae canran uchel o eiddo (bron i 85%) o fewn Blaenau Gwent yn dod o fewn y bandiau A a B isaf, sy'n golygu bod trigolion Blaenau Gwent yn talu un o'r lefelau cyfartalog isaf o'r Dreth Gyngor yng Nghymru.

Mae yna hefyd nifer o gynigion arbedion ar y gweill ar gyfer Cyllideb 2019/20 wrth i'r Cyngor flaengynllunio cynllunio ariannol ar gyfer y dyfodol. Bydd rhai o'r cynigion hyn yn destun ymgynghoriadau manylach gyda'r gymuned leol.

Mae'r Cyngor yn adolygu ei Strategaeth Ariannol Tymor Canolig hyd at 2022 gan nodi sut y rheolir gostyngiadau pellach yn y Gyllideb trwy adolygiadau gwasanaeth strategol, gan gyflwyno modelau darparu gwasanaeth amgen a mwy effeithlon a datblygu ymagwedd fwy masnachol tuag at ddarparu gwasanaethau ac agor ffrydiau incwm newydd.

Meddai Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent, y Cynghorydd Nigel Daniels:

"Nid yw'n hawdd gosod Cyllideb pan fo gennych chi'r setliad ariannol gwaethaf o blith unrhyw gyngor yng Nghymru a bu'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd ynglŷn â sut y caiff gwasanaethau eu darparu. Ein blaenoriaethau yw diogelu Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg a datblygu amgylchedd byw'n lân, gwasanaethau yr ydym yn ymwybodol eu bod, trwy ddeialog â'n trigolion, yn bwysig iddynt, ac mae'r Gyllideb a gytunwyd gan y Cyngor heddiw yn gwarchod y gwasanaethau hyn.

"Mae'r Cyngor wedi gorfod cynllunio ar gyfer bwlch cyllido o £6 miliwn yn dilyn gostyngiad yn ei Grant gan Lywodraeth Cymru a phwysau costau gwasanaeth cynyddol. Mae hyn wedi golygu canfod arbedion sylweddol ar draws y Cyngor i bontio'r bwlch, tra hefyd yn buddsoddi £3 miliwn i wasanaethau cymdeithasol, ysgolion a gwasanaethau amgylcheddol, i ddelio â chynnydd yn y galw am y gwasanaethau hyn.

"Bydd cynnydd mewn cyllid i ysgolion a mwy o arian i weithwyr cyflogedig is trwy gyflwyno'r Cyflog Byw Sylfaenol i'n gweithlu. Ni fydd yn rhaid i'r Cyngor ddefnyddio ei gronfeydd wrth gefn i gydbwyso'r gyllideb y flwyddyn nesaf ac mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau bod sefyllfa ariannol gryfach yn mynd rhagddo gan y byddwn yn anochel yn wynebu mwy o doriadau yn ein cyllid yn y dyfodol. Bydd yn rhaid i'r Dreth Gyngor gynyddu ond ar 4.2% rydym yn gobeithio mai hwn fydd un o'r cynnydd mwyaf cymedrol yng Nghymru. Ar y cyfan, mae hwn yn gyllideb deg oherwydd y setliad anodd a'r pwysau ar ein gwasanaethau. "

 

Nodiadau:

 

1. Mae'r cynnydd o 4.2% yn y Dreth Gyngor yn cyfateb i 81c yr wythnos ar gyfer eiddo Band A a 95c yr wythnos ar gyfer eiddo Band B (mae bron i 85% o eiddo Blaenau Gwent ym Mand A a B).