‘Cynghorau Balch’ dros Pride Cymru 2019

Mae Blaenau Gwent a chynghorau ledled De Cymru yn uno i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i gefnogi’r gymuned LGBTQ+ yn Pride Cymru 2019.

Mae ‘Cynghorau Balch’ yn dod â mwyafrif y cynghorau yn Ne Cymru ynghyd mewn ffordd amlwg ac unedig, i  gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ar gyfer cymunedau LGBTQ+.

Eleni bydd Blaenau Gwent yn ymuno â Rhondda Cynon Taf, Merthyr, Caerdydd, Casnewydd, Caerffili, Torfaen a Phen-y-bont ar Ogwr i gymryd rhan yn y digwyddiad.

Ddydd Sadwrn 24 Awst bydd ‘Cynghorau Balch’ yn cymryd rhan yng Ngorymdaith Pride Cymru drwy ganol dinas Caerdydd lle bydd staff LGBTQ+, cefnogwyr, cynghorwyr a grwpiau cymunedol cysylltiedig yn gorymdeithio gyda’i gilydd i ddangos ymrwymiad a chefnogaeth pob cyngor i’r gymuned LGBTQ+ yng Nghymru ac ym mhedwar ban byd.

Bydd gan ‘Cynghorau Balch’ hefyd stondin ym Mhenwythnos Mawr Pride Cymru ar 24 a 25 Awst, a byddant yn siarad gydag ymwelwyr i drafod sut gall cynghorau wella darpariaeth gwasanaeth, mynediad a chynhwysiant ac atal gwahaniaethu ar gyfer preswylwyr a gweithwyr LGBTQ+, yn ogystal â  chyfeirio at wasanaethauu a gynigir gan gynghorau a phartneriaid.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Moore, Hyrwyddwr Cydraddoldeb yng Nghyngor Blaenau Gwent:

“Rydym yn ymroddedig i sicrhau y caiff aelodau’r gymuned LGBTQ+ yma ym Mlaenau Gwent eu trin yn gyfartal a’u bod yn cael yr un cyfleoedd â phawb arall. Rydym yn hynod falch i weithio fel rhan o ‘Cynghorau Balch’ yn Ne Cymru i gael presenoldeb yn y  digwyddiad pwysig hwn i dynnu sylw at ymrwymiad cadarn ein cynghorau i hyrwyddo parch ac amrywiaeth yn ein cymunedau. Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn gweithio i gyflawni ar gyfer pawb, beth bynnag eu hil, rhywioldeb, hunaniaeth ryweddol, oedran, anabledd neu grefydd.

“Byddwn hefyd yn cyhwfan y faner LGBTQ+ yn falch tu allan i’r Ganolfan Ddinesig yng Nglynebwy y penwythnos hwnnw.”

Cynhelir Pride Cymru ar 23, 24 a 25 Awst 2019. Mae mwy o wybodaeth a thocynnau ar gael drwy: www.pridecymru.com