Cymuned Ddysgu Abertyleri yn agor ei drysau i ddisgyblion

Bydd y Gymuned Ddysgu yn darparu dysgu 3-16 cynhwysfawr ar gyfer disgyblion oedran cynradd ac uwchradd fydd yn seiliedig ar bum safle campws ledled ardal Abertyleri a Six Bells. 

Mae'r cynlluniau yn mynd rhagddynt i ddod â'r disgyblion ar Gampws Stryd y Frenhines a Champws Heol Bryngwyn ynghyd dan un to mewn adeilad newydd ysgol gynradd gymunedol yn Six Bells. Ynghyd ag adeilad newydd Campws Stryd Tyleri, bydd hyn yn arwain at fuddsoddiad o dros £15 miliwn y stad ysgolion yn yr ardal hon dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.   

Dywedodd Liz Miles, Pennaeth y Gymuned Ddysgu:  

"Mae'n gyffrous iawn croesawu disgyblion i Gymuned Ddysgu Abertyleri yr wythnos hon. Ein cenhadaeth yw codi safonau ac uchelgais pob dysgwr beth bynnag eu man cychwyn. Mae'r holl staff yn edrych ymlaen at weithio gyda disgyblion, rhieni a'r gymuned ehangach i sicrhau fod gan bob dysgwr fynediad i addysgu ansawdd uchel a phrofiadau dysgu diddorol ac ystyrlon. Bydd Cymuned Ddysgu Abertyleri yn adeiladu ar waith da'r ysgolion a'i rhagflaenodd a arweiniodd at y canlyniadau TGAU gorau erioed eleni ar gyfer disgyblion a fynychodd Ysgol Gyfun Abertyleri."     

Mae Cymuned Ddysgu Abertyleri yn gam arall yng nghynlluniau'r Cyngor i drawsnewid  addysg a chynyddu safonau ym Mlaenau Gwent er mwyn codi cyrhaeddiad ac uchelgais a gwneud yn siŵr fod ein plant a phobl ifanc yn y sefyllfa orau i gyflawni eu potensial llawn.     

Dywedodd y Cyng Keren Lender, Aelod Gweithredol Addysg Cyngor Blaenau Gwent:      

"Mae'n wych gweld gweledigaeth y Cyngor ar gyfer dysgu 3-16 yn ardal Abertyleri yn dod i ffrwyth heddiw. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno'n dda iawn i'r holl staff a'r disgyblion. Rydym yn dechrau gweld gwelliannau go iawn mewn addysg ac rydym yn parhau i fod yn ymroddedig i wneud y gwelliannau angenrheidiol er mwyn codi safonau a deilliannau ar gyfer ein plant a phobl ifanc."           

Mae pob campws yn y Gymuned Ddysgu wedi cadw ei lliwiau gwisg ysgol presennol ond bydd y logo newydd ganddynt i gyd. Dywedodd disgyblion a rhieni yn ystod y broses ymgysylltu fod cadw'r un lliwiau gwisg ysgol yn bwysig i gadw hunaniaeth pob safle.

Enwau'r campysau yw:   

  • Campws Uwchradd
  • Campws Stryd Tyleri
  • Campws Heol Bryngwyn
  • Campws Stryd y Frenhines
  • Campws Heol Roseheyworth


Liz Miles yw Pennaeth y Gymuned Ddysgu gyda Nathan Jenkins a Kate Olsen yn Is-benaethiaid y cyfnodau Uwchradd a Chynradd. Bydd pob campws yn cadw presenoldeb arweinyddiaeth yn gyfrifol am redeg y safle o ddydd i ddydd.    

Os oes gan rieni disgyblion fydd yn mynychu Cymuned Ddysgu Abertyleri unrhyw gwestiynau neu os ydynt angen mwy o wybodaeth, gallant anfon e-bost at info@abertillery3-16.co.uk
  
Mae hefyd wefan newydd yn  www.abertillery3-16.co.uk