'Cymryd cip cyn bachu bwrdd' ar ddiwrnod San Ffolant

Mae cynllunio'r pryd San Ffolant perffaith yn gallu bod yn straen. Mae digon i boeni yn ei gylch, a'r peth olaf rydych eisiau yn pwyso ar eich meddwl cyn y dêt arbennig yw p'un a yw'r bwyty yn hylan ai peidio. Does dim byd rhamantus am wenwyn bwyd!

Hyd yn oed os yw bwyty ag awyrgylch gariadus neu os yw’r staff yn edrych yn smart, nid yw hynny bob amser yn golygu bod y safon hylendid yn dda. Ond fe all y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd gymryd y baich hwnnw oddi ar eich ysgwyddau. 

Mae'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn sgorio pob busnes bwyd ar ei safonau hylendid, yn seiliedig ar arolygiadau gan swyddogion diogelwch bwyd yr awdurdodau lleol. Caiff busnesau eu sgorio o '0', sy'n golygu bod 'angen gwella ar frys' i'r sgôr uchaf o '5', sy'n adlewyrchu safonau ‘da iawn’.       

Felly, p'un a ydych chi'n bwcio bwrdd mewn bwyty rhamantus, mewn caffi bach clud, neu'n bwriadu archebu tecawê ar eich ffordd adre, cofiwch ddewis un o'r busnes yn Blaenau Gwent sydd â sgôr o 3 neu uwch.

Mae canfod sgôr yn hawdd iawn. Ewch ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd: www.food.gov.uk/sgoriau a chliciwch ar 'Cymraeg'.

Fel arall, os ydych chi wedi mynd allan cyn edrych, gallwch edrych am y sticer gwyrdd a du. Os nad ydych chi'n gallu gweld un, cofiwch holi'r staff.