Cyllid Balchder Bro i gael ei graffu

Ar y 5ed o Ionawr, bydd cynghorwyr ym Mlaenau Gwent yn craffu ar gynigion ar gyfer rhaglen Balchder Bro y fwrdeistref.

Ym mis Medi 2025, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd y rhaglen Balchder Bro yn gweld Blaenau Gwent yn derbyn hyd at £20 miliwn, dros gyfnod o 10 mlynedd.

Nod Rhaglen Balchder Bro Llywodraeth y DU yw cefnogi'r cymunedau mwyaf mewn angen ac mae'r awdurdod lleol wedi cael gwahoddiad i nodi a chynnig y cymunedau yn eu hardaloedd i gymryd rhan yn y rhaglen.

Rhaid dychwelyd cadarnhad o'r ardal gymdogaeth a ddewiswyd i Lywodraeth y DU erbyn 9 Ionawr 2026 i'w chymeradwyo ac i ddechrau cyflwyno'r rhaglen.

I dderbyn y cyllid, dylai'r ardal a gynigir fod yn un ardal rhwng 5 a 15 mil o drigolion, nid mewn ardal sydd eisoes wedi derbyn cyllid Balchder Bro a rhaid gallu tystio ei bod yn cael ei hadnabod fel y gymdogaeth fwyaf mewn angen, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) fel y brif ffynhonnell ddata.

Mae'r adroddiad yn nodi 3 opsiwn i gynghorwyr eu hystyried. Ewch i (Public Pack)Agenda Document for Economic Development and Environmental Management Scrutiny Committee, 05/01/2026 14:00 i ddarllen yr adroddiad llawn.