Cyhoeddi'r Rhestr Fer ar gyfer Gwobrau Busnes Blaenau Gwent 2018

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cynnal eu Gwobrau Busnes cyntaf erioed eleni. Nod y gwobrau yw cydnabod llwyddiannau'r unigolion mentrus a busnesau bach a chanolig ym Mlaenau Gwent.

Noddir Gwobrau Busnes Blaenau Gwent gan Lywodraeth Cymru ac maent yn cynnwys saith categori gwobrau gyda chategori ychwanegol busnes y flwyddyn lle cyhoeddir enw'r enillydd yn y seremoni wobrwyo.

Mae'r cwmnïau dilynol ar y rhestr fer yn y rowndiau terfynol. Cyhoeddir enwau'r enillwyr yn y seremoni wobrwyo:

Busnes Newydd y Flwyddyn - Noddir gan UK Steel Enterprise:

The Warehouse
Candour Talent
Rooms and Views

Busnes Bach neu Ganolig y Flwyddyn - Noddir gan Business in Focus

Atal UK Cyf
PMB Cyf
David Spear Commercials
Clams Cakes
Buds to Blossoms

Menter Gymdeithasol y Flwyddyn - Noddir gan  United Welsh

Gofal a Thrwsio Blaenau Gwent a Chaerffili
Sefydliad Glowyr Llanhiledd
Ymddiriedolaeth Aneurin Leisure

Rhagoriaeth mewn Gweithgynhyrchu Noddir gan Thales

Canolfan Eden
Alpha Bio Tech Cyfyngedig
Flame Protect

Rhagoriaeth mewn Gweithgynhyrchu Noddir gan Sefydliad Gweithgynhyrchwyr EFF

PMB Cyf
Rooms and Views
Alpha Bio Tech Cyfyngedig

Rhagoriaeth mewn Masnach Rhyngwladol  Noddir gan Conti Teves UK Cyf

PMB Cyf
Flame Protect UK

Busnes Manwerthu neu Wasanaeth y Flwyddyn  Noddir gan Fforwm Busnes Glynebwy a Cartrefi Melin 

The Warehouse
360 Developments
Wilkins Foot Clinic

Busnes y Flwyddyn  Noddir gan Lywodraeth Cymru 

Dewisir enillydd y categori o blith enillwyr y categorïau uchod yn y seremoni wobrwyo

Dywedodd y Cyng Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

“Rydym yn edrych ymlaen ac yn falch i gynnal ein Gwobrau Busnes cyntaf erioed i ddathlu llwyddiant a'r hyn a gyflawnodd busnesau ym Mlaenau Gwent. Mae hwn yn gyfle i ni ddangos yr ystod amrywiol o fusnesau llwyddiannus, talentog, creadigol ac arloesol sydd gennym. Hoffwn ddiolch i'r noddwyr sy'n cynnwys Llyworaeth Cymru a'r holl fusnesau hynny sydd wedi cymryd rhan ar bob cam o broses y gwobrau."