Cyflwyniad i’r Credyd Cynhwysol

Mae cyflwyno Credyd Cynhwysol yn newid sylfaenol I’r system o “fudd-daliadau gwaddol” a chredydau treth y mae’n eu holynu.
Mae Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol yn cael ei ymestyn ledled y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd a chaiff ei gyflwyno ym Mlaenau Gwent ym mis Ebrill 2016.
Effeithir arnoch o’r dyddiad hwnnw os ydych yn Landlord Preifat/Cymdeithasol ac angen gwneud hawliad am unrhyw un o’r 6 budd-dal y mae Credyd Cynhwysol yn ei olynu, Lwfans Ceiswyr Gwaith (Seiliedig ar Incwm), Budd-dal Tai, Credydau Treth Gwaith, Credydau Treth Plant, Lwfans Cymorth Cyflogaeth (Cysylltiedig ag Incwm) a Chymhorthdal Incwm.
Mae Adrannau Tai a Budd-dal Tai Blaenau Gwent yn cynnal digwyddiad ymwybyddiaeth Credyd Cynhwysol a noddir gan Rhentu Doeth Cymru a anelir at y sector rhent preifat ddydd Mercher 27 Medi 2017 yn Theatr Metropole, Abertyleri. Mae coffi a chofrestru o 9.30am.
Bydd cynrychiolwyr o’r awdurdod lleol, yr Adran Gwaith a Phensiynau a chyrff trydydd sector yn bresennol i’ch helpu i ddeall y newidiadau.
Fformat y diwrnod:

  • Sesiwn bore  - Gwybodaeth a siaradwyr o’r Adran Budd-dal Tai, Adran Gwaith a Phensiwn, Rhentu Doeth Cymru, swyddogion Sector Rhent Preifat.  
  • Sesiwn prynhawn - “Galw heibio” -  Gyda gwybodaeth a chyngor gan wasanaethau ar draws Blaenau Gwent yn cynnwys cyngor ar ddyled, cymorth digidol, cymorth trefnu arian personol, byrddau bond ac yn y blaen. Caiff y sesiwn ei theilwra i’r unigolion hynny sydd ag eiddo neu sy’n byw o fewn Blaenau Gwent y bydd Credyd Cynhwysol yn effeithio arnynt. Cynigir stondinau gwybodaeth ar wasanaethau lleol o fewn yr ardal yn manylu sut y gallant eich cefnogi.

Gofynnir i chi gadarnhau os byddwch yn bresennol ai peidio drwy gysylltu â Nicola.Rainbird@blaenau-gwent.gov.uk