Cyflogaeth a Sgiliau

Dydd Mercher 11 Mawrth 2020

Mae Pwyllgor Gweithredol y Cyngor heddiw wedi croesawu adroddiad y pwyllgor i gefnogi Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Blaenau Gwent. Cafodd opsiwn dau ei gynnig gan y pwyllgor.

Diben y cynllun yw rhoi cyfleoedd i godi uchelgais a chefnogi twf economaidd drwy weithio partneriaeth. Mae’n amlinellu ystod o flaenoriaethau i sicrhau fod gan unigolion a busnesau fynediad i’r gefnogaeth gywir o ran sgiliau a chyflogaeth.

Mae’r cynllun yn rhoi sylw i bum maes blaenoriaeth:
• Busnes a Menter; hwyluso twf ac arloesedd drwy ddeall ac ymateb i anghenion economaidd lleol.
• Dysgu a Sgiliau; sicrhau fod y ddarpariaeth sgiliau ar bob lefel yn ymatebol ac yn hygyrch i breswylwyr.
• Symudedd Cymdeithasol, Cynhwysiant a Chyflogadwyedd; creu cymuned gyda chymhelliant a sgiliau drwy gefnogaeth cyflogaeth briodol, ar bob cam o daith unigolyn.
• Addysg ac Ysgolion; codi ymwybyddiaeth o gyfle ac uchelgais pobl ifanc i gyflawni eu potensial a chefnogi eu llwybr i waith.
• Caffaeliad a Buddion Cymunedol; cynyddu cyfleoedd cysylltiedig â chyflogaeth a sgiliau drwy gaffael lleol a defnyddio cymalau cymdeithasol mewn contractau.

Mae mwy o wybodaeth am bob un o’r blaenoriaethau hyn a sut y cânt eu cyflenwi ar gael drwy glicio ar y ddolen islaw (adroddiad Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau):
http://democracy.blaenau-gwent.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=1165&MId=1836&LLL=0

Dywedodd y Cyng Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

“Mae gweithlu cryf a medrus yn hanfodol i gefnogi gofynion presennol ac amcanol llafur ar gyfer nifer o sectorau. Mae’r cynllun cyflogaeth a sgiliau yn trin dull y Cyngor ar gyfer darparu cefnogaeth i fusnesau a hefyd i unigolion. Mae’n amlygu dull gweithredu cydlynus gyda’n partneriaid sy’n ymateb i ofynion sgiliau unrhyw sector.

“Mae’r pwyllgor heddiw wedi trafod yr adroddiad a’r cynllun ac yn croesawu’r gwaith cadarnhaol a wneir yn yr ardal i gynyddu cyfleoedd ar gyfer rhai sy’n byw yn y Fwrdeistref. Yn ogystal â chefnogi twf yn yr ardal, mae hefyd yn anelu i ddenu busnes newydd i Flaenau Gwent. Mae’r Cyngor yn gweld cyfleoedd buddsoddiad sylweddol drwy brosiectau tebyg i Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Cymoedd Technoleg. Rydym felly eisiau sicrhau fod gan yr ardal y sgiliau i fedru cynyddu cyfleoedd  cyflogaeth a busnes fel canlyniad i’r buddsoddiad hwn. Rydym eisiau cefnogi cenedlaethau’r dyfodol a’u hannog i wireddu eu potensial a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd hyfforddiant a dysgu sydd yn bodoli.”