Cyfleoedd i helpu i greu Parc Rhanbarthol y Cymoedd

Cafodd y cynigion ar gyfer y Parc Rhanbarthol eu datblygu gan bobl y Cymoedd, fel mudiadau gwirfoddol, sefydliadau cymunedol a chyrff o'r sector cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r cynigion wedi'u cyflwyno yn y prosbectws ar gyfer Parc Rhanbarthol y Cymoedd, sydd i'w gael yn:

Prosbectws: https://gov.wales/sites/default/files/publications/2018-12/181203-valleys-regional-park-prospectus.pdf

Bydd y Parc Rhanbarthol yn adeiladu ar y partneriaethau sy'n bodoli eisoes ac yn cynnwys gwaith ymgysylltu â phobl a sefydliadau o bob cwr o'r Cymoedd.

Ar hyn o bryd, rydym yn recriwtio ar gyfer y rolau a fydd yn helpu i weithredu Parc Rhanbarthol y Cymoedd, gyda phedwar cyfle wedi'u hysbysebu yn y tîm cymorth.

Dyma gyfle cyffrous i fod yn rhan o'r broses o greu Parc Rhanbarthol y Cymoedd a helpu i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio drwy ymgysylltu â chymunedau ac ystod eang o randdeiliaid. Mae'r swyddi'n gyfle i ddylanwadu ar y gwaith o ddatblygu polisi Lywodraeth Cymru a defnyddio ffyrdd creadigol o gyflawni gweithgareddau a fydd yn arwain at fanteision amlwg i gymunedau'r Cymoedd.

Mae'r rolau a hysbysebwyd yn adlewyrchu themâu craidd Parc Rhanbarthol y Cymoedd:

•         Y Dirwedd, Diwylliant a Hunaniaeth;
•         Hamdden a Llesiant;
•         Cymunedau a  Menter.

Rydym eisiau datblygu tîm sydd ag ystod eang o brofiadau a sgiliau o sefydliadau ym mhob sector.
Mae'r cydbwysedd hwn yn hollbwysig er mwyn herio'r ffordd rydym yn gweithio ar hyn o bryd, a sicrhau ein bod yn achub ar y cyfle i greu menter sy'n wirioneddol gydweithredol a rhagweithiol.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fydd yn gyfrifol am y swyddi a byddant yn cael eu llenwi ar secondiad am 18 mis i ddechrau, hyd ddiwedd mis Mawrth 2021. Bydd y swyddi'n caniatáu gweithio hyblyg, gydag opsiynau i weithio gartref neu o weithfannau mewn lleoliadau ar draws y Cymoedd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Barc Rhanbarthol y Cymoedd neu'r swyddi a hysbysebwyd, mae croeso i chi gysylltu â Phil Lewis - Phil.Lewis2@llyw.cymru.

Y dyddiad cau – 28/08/2019

https://www.bridgend.gov.uk/cy/fy-nghyngor/swyddi/