Cyfle Tendro i Gontractwyr Adeiladu - Cyn-Neuadd y Dref Restredig Gradd II, Y Cylch, Tredegar

 Fel rhan o Gynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar, mae cyfle tendro wedi dod ar gael i adnewyddu cyn-Neuadd y Dref Restredig Gradd II, Y Cylch, Tredegar, y tu fewn ac y tu allan, trwy ei chynrychiolydd penodedig Mr Roger Field o FTAA Ltd.

Mae gwybodaeth ar gael ar wefan GwerthwchiGymru a’r dyddiad cau ar gyfer dychwelyd tendrau yw 12 canol-dydd Dydd Gwener 3 Awst 2018. (Cyfeirnod GwerthwchiGymru JUN254625)
https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru

Mae’n ofynnol i gontractwyr gofrestru eu diddordeb gan ddefnyddio manylion cyswllt y cynrychiolydd penodedig Mr Roger Field o FTAA Ltd, sydd i’w gweld ar wefan GwerthwchiGymru dan gyfeirnod JUN254625. Bydd gofyn i gontractwyr sy’n tendro ddarparu portffolio yn dangos cymwysterau treftadaeth a/neu brofiad o ymgymryd â gwaith ar adeiladau rhestredig ac adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth. 
Mae Cynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar yn cyfrannu’n gadarnhaol at adfywiad Tredegar trwy sicrhau gwaith atgyweirio ac adfer traddodiadol o safon uchel i adeiladau cymwys yn ardal y Cylch yng nghanol y dref. Bwriedir i gynllun adnewyddu Cynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar fod yn gatalydd ar gyfer mwy o fuddsoddiad gan y sector preifat a’i nod yw trawsnewid atyniad y dref i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr wrth wella cynaliadwyedd hirdymor.

I gael gwybodaeth am Gynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar, cysylltwch â Ceri Howell ar 01495 353313 neu anfonwch e-bost at tredegarprojects@blaenau-gwent.gov.uk
Ariennir Cynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru, Cadw, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.