Cyfle Tendro i Gontractwyr Adeiladu - 10 Y Cylch, Tredegar

Fel rhan o Gynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar, mae cyfle tendro wedi dod ar gael i adnewyddu’r tu allan i 10 Y Cylch, Tredegar, trwy ei gynrychiolydd penodedig Mr Martin Purslow o Pennycuick Collins.

Mae gwybodaeth ar gael ar wefan GwerthwchiGymru a’r dyddiad cau ar gyfer dychwelyd tendrau yw 12 hanner dydd Dydd Mercher 8 Awst 2018. (Cyfeirnod GwerthwchiGymru JUL258106)
https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru

Mae’n ofynnol i gontractwyr gofrestru eu diddordeb gan ddefnyddio manylion cyswllt y cynrychiolydd penodedig Mr Martin Purslow o Pennycuick Collins, sydd i’w gweld ar wefan GwerthwchiGymru dan gyfeirnod JUL258106. Bydd gofyn i gontractwyr sy’n tendro feddu ar brofiad o ymgymryd â phrosiectau adnewyddu ar adeiladau treftadaeth a/neu adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth. 

Mae Cynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar yn cyfrannu’n gadarnhaol at adfywiad Tredegar trwy sicrhau gwaith atgyweirio ac adfer traddodiadol o safon uchel i adeiladau cymwys yn ardal y Cylch yng nghanol y dref. Bwriedir i gynllun adnewyddu Cynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar fod yn gatalydd ar gyfer mwy o fuddsoddiad gan y sector preifat a’i nod yw trawsnewid atyniad y dref i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr wrth wella cynaliadwyedd hirdymor.

I gael gwybodaeth am Gynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar, cysylltwch â Ceri Howell ar 01495 353313 neu anfonwch e-bost at tredegarprojects@blaenau-gwent.gov.uk

Ariennir Cynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru, Cadw, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.