Cyfle Tendro ar gyfer Contractwyr Adeiladu

Fel rhan o Gynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar (THI), mae cyfle tendro ar gael ar gyfer adnewyddu allanol Rhif 4&5 Y Cylch, Tredegar drwy eu cynrychiolwyr penodedig C2J Architects.    

Mae gwybodaeth a chyfle i gofrestru diddordeb ar gael drwy wefan GwerthwchiGymru hyd 12 o'r gloch canol-dydd dydd Gwener 9 Medi 2016.Cyfeiriad y wefan: - https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/ 

Mae'n ofynnol i gontractwyr sydd â diddordeb i gofrestru diddordeb i ddechrau drwy wefan GwerthwchiGymru a bydd holiadur cyn-cymhwyso i'w lenwi. Mae'n ofynnol i'r contractwyr sy'n tendro gael profiad o brosiectau adnewyddu adeiladau treftadaeth a/neu adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth.   
  
Mae'r Cynllun THI yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i adfywio Tredegar drwy sicrhau gwaith atgyweirio ac ailosod traddodiadol ansawdd uchel i adeiladau cymwys yn ardal Y Cylch yng nghanol y dref. Cynigir bod cynllun adnewyddu THI yn gweithredu fel catalydd ar gyfer cynyddu buddsoddiad sector preifat gyda'r nod o drawsnewid atyniad y dref i fusnesau, preswylwyr ac ymwelwyr, tra'n hybu cynaliadwyedd hir dymor.    
 
I gael gwybodaeth ar Gynllun THI Tredegar, cysylltwch â Ceri Howell ar 01495 353313 neu e-bost tredegarprojects@blaenau-gwent.gov.uk.   

Caiff Cynllun THI ei ariannu gan Gronfa'r Loteri Treftadaeth, Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru, Cadw a Chyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent.