Cydweithio i ail-agor ysgolion ar gyfer pob dysgwr

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn gweithio’n agos gydag ysgolion i ail-agor yn ddiogel ac effeithlon i bob dysgwr o ddydd Llun 7 Medi 2020.

O ddydd Mawrth 1 Medi rydym wedi cytuno gydag ysgolion i gynnal cyfuniad o ddyddiau cynllunio ar gyfer staff, a dyddiau pontio, lle gofynnir i ddisgyblion grwpiau blwyddyn allweddol i fynychu – bydd mwy o fanylion ar hyn ar gael gan ysgol eich plentyn.

Mae’r Cyngor yn gweithio’n agos gyda’n holl arweinwyr ysgol, undebau llafur a phartneriaid eraill, yn defnyddio canllawiau gweithredol diweddaraf Llywodraeth Cymru i roi amgylcheddau diogel o ran Covid ar gyfer plant a phobl ifanc a staff i ddychwelyd iddynt yn nhymor yr hydref. Er mwyn gwneud hyn, rydym wedi cytuno ar gyfres o egwyddorion allweddol cynhwysfawr ar gyfer ail-agor, gan gydnabod y bydd trefniadau yn amrywio yn y gwahanol ysgolion. Mae hefyd ganllawiau penodol i Flaenau Gwent a gyhoeddwyd i bob ysgol sy’n gosod cyd-destun lleol ar ail-agor ysgol gyfan.

Yr allwedd i helpu cadw ysgolion yn ddiogel fydd cyfranogiad llawn yn strategaeth Profi Olrhain Diogelu y Llywodraeth, sy’n eu helpu i ddynodi ac olrhain achosion o Covid-19 o fewn y gymuned leol.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol dros Addysg:

“Cafodd Covid-19 effaith sylweddol ar addysg ein plant a’n pobl ifanc ac felly rydym yn falch iawn i weithio gyda’n hysgolion i roi amgylchedd diogel a sicrwydd iddynt i ddychwelyd iddo ym mis Medi, nid yn unig ar gyfer y buddion dysgu amlwg ond er eu lles emosiynol, corfforol a chymdeithasol. Mae dysgwyr yn wirioneddol wedi colli cysur cyfarwydd bywyd ysgol a threulio amser gyda’u hathrawon a’u ffrindiau.

Deallwn y bydd rhai teuluoedd yn bryderus am anfon eu plant yn ôl i’r ysgol a gallwn sicrhau rhieni ein bod yn gweithio mewn partneriaeth agos gyda phob ysgol i weithredu’n lleol y canllawiau cynhwysfawr a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys ystod o fesurau a gynlluniwyd i helpu i gadw disgyblion ysgol a staff yn ddiogel. Byddwn hefyd yn gweithio gyda teuluoedd disgyblion bregus i drin unrhyw bryderon neilltuol a all fod ganddynt.

Bu’r ymateb gan y sector Addysg i Covid-19 yn rhagorol. Rydym wedi gweithio’n dda gyda’n hysgolion i ddarparu gofal plant ar gyfer gweithwyr allweddol a threfnu sesiynau ‘ ailgydio, dal i fyny’ ar gyfer grwpiau o ddysgwyr ar ddiwedd tymor yr haf a rydym yn parhau i gydweithio ar ddychwelyd yn ddiogel ac yn effeithlon i weithio ysgol gyfan. Mae Covid-19 wedi ac yn parhau i fod yn sefyllfa ddeinamig iawn ac yn y dyfodol byddwn yn gweithio gyda’n ysgolion i adolygu’r trefniadau cynllunio yn unol â hynny.”

I ganfod mwy am yr hyn fydd yn digwydd pan fydd ysgolion Blaenau Gwent yn ail-agor ewch i – https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/argyfyngau-ac-atal-troseddau/coronavirus-covid-19-latest-education-information/

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau cynhwysfawr ar gyfer pawb sy’n ymwneud ag ailagor ysgolion a gosodiadau gofal plant, sydd ar gael yma -

• https://llyw.cymru/canllawiau-gweithredol-ar-gyfer-ysgolion-lleoliadau-o-dymor-yr-hydref-covid-19?_ga=2.252627788.490233403.1598001863-665820120.1574851761