Cydnabod ysgolion am waith gyda disgyblion agored i newid

Cafodd dwy o ysgolion Blaenau Gwent eu hamlygu fel enghraifft o arfer gorau gan Estyn am eu cefnogaeth i ddisgyblion gyda phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

Mae adroddiad diweddar Estyn 'Adnabod eich plant - cefnogaeth i ddisgyblion sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod' yn edrych sut mae angen dull gweithredu ysgol gyfan a gweithio gyda phartneriaid i gefnogi'r disgyblion hyn er mwyn meithrin eu gwydnwch a chryfhau eu deallusrwydd emosiynol. Caiff Cymuned Ddysgu 3-16 Ebwy Fawr ac Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair ym Mrynmawr eu cynnwys fel Astudiaethau Achos yn yr adroddiad.

Cyflwynodd Ebwy Fawr, ysgol bob oed 3-16 fwyaf Blaenau Gwent, bolisi ymddygiad newydd ar gyfer disgyblion yn y cyfnod uwchradd, ond sylwi mewn dim o dro nad oedd hyn yn gweithio ar gyfer nifer fach o fyfyrwyr a bod eu hymddygiad heriol yn parhau. Dynodwyd fod y disgyblion hyn wedi dioddef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod o wahanol lefelau a symudodd yr ysgol at becynnau pwrpasol o gefnogaeth yn dibynnu ar natur a maint y trawma. Roedd hyn yn cynnwys rhaglenni ymwybyddiaeth ofalgar, sesiynau rheoli dicter, sesiynau Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol Dysgu, amserlenni diwygiedig, sesiynau un-i-un a gweithio tuag at Raglen Dug Caeredin.

Cysylltodd yr ysgol gyda nifer o bartneriaid aml-asiantaeth wrth weithio i gefnogi'r myfyrwyr yn cynnwys Teuluoedd y Gyntaf, Ysbrydoli Blaenau Gwent, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Coleg Gwent, Ymddiriedolaeth Cymunedau Blaenau Gwent, Gyrfa Cymru, Gwasanaeth Lles Addysg yr awdurdod lleol a gwasanaethau cwnsela seiliedig mewn ysgolion.

Esboniodd Huw Lloyd, pennaeth yr ysgol, sut y cafodd hyn effaith gadarnhaol yng Nghymuned Ddysgu Ebwy Fawr:

"Cafodd ein taith i ddod yn ysgol lwyddiannus sy'n gwybod am drawma drwy ymchwil a hyfforddiant mewn profiadau niweidiol yn ystod plentyndod wedi cael effaith enfawr ar ein hysgol a bywydau ein myfyrwyr. Yn neilltuol, mae datblygu ein Canolfan Llesiant wedi bod yn llwyddiannus iawn ac wedi arwain at ystod eang o welliannau mewn presenoldeb a chyrhaeddiad economaidd ar gyfer grŵp sylweddol o bobl ifanc agored i niwed. Rydym yn falch i arwain mewn addysg ac i gael ein cynnwys yn yr astudiaeth hon gan Estyn, sy'n torri tir newydd."

Yn Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair, dynodwyd drwy arolwg blynyddol y mae'r ysgol yn ei ddefnyddio ac arsylwadau ystafell ddosbarth fod gan garfan fawr o fechgyn mewn grŵp blwyddyn lefelau isel o lesiant a phroblemau cymdeithasol ac ymddygiad. Penderfynodd yr ysgol y byddai ymyrryd i feithrin hyder a gwydnwch drwy chwaraeon yn fanteisiol. Dewisodd y bechgyn taekwondo fel gweithgaredd wythnosol gan ei fod yn datblygu syniadau megis disgyblaeth, ymrwymiad a hunan-amddiffyn.

Pan wnaethant ailgynnal yr arolwg ar ddiwedd y flwyddyn, roedd hunanbarch y disgyblion wedi gwella ac roeddent yn llawer mwy cadarnhaol am eu profiad yn yr ysgol. Nododd staff gynnydd yn hyder y disgyblion a'u sylw at waith. Roedd digwyddiadau'n ymwneud ag ymddygiad gwael wedi gostwng ac, yn gyffredinol, fod agweddau'r bechgyn at ddysgu wedi gwella.

Dywedodd Tim Baxter, Pennaeth Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair:

"Yn Ysgol Gatholig Santes Fair deallwn y gallai profiadau niweidiol yn ystod plentyndod effeithio ar ein holl blant. Rydym yn ymdrechu i roi amgylchedd sy'n canolbwyntio ar ddull gweithredu ysgol gyfan sy'n rhoi pob plentyn yn y canol. Rydym yn meithrin perthynas gyda phob plentyn ac yn deall pwysigrwydd ein rolau wrth eu cefnogi i ddod yn ddysgwyr hyderus a gwydn."

Dywedodd y Cyng Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg Cyngor Blaenau Gwent:

"Mae'n wych gweld dwy o'n hysgolion yn cael sylw gan Estyn fel arfer gorau yn yr adroddiad hwn am sut y cefnogwn ddysgwyr agored i niwed. Rydym yn parhau'n ymroddedig i wella deilliannau disgyblion ym Mlaenau Gwent a gan fod cysylltiad amlwg rhwng perfformiad da a llesiant disgyblion, rydym eisiau cefnogi ein disgyblion i fynychu'r ysgol yn gyson a chyfrannu'n gadarnhaol at fywyd yr ysgol.

Mae pob disgybl yn bwysig ac mae'r gwaith a wnaiff ein holl ysgolion yn helpu i gefnogi a llywio ein dysgwyr mwyaf agored i niwed fel y gallant fynd ymlaen i gyflawni eu gwir botensial mewn bywyd. Mae llwyddiant y gwaith hwn yn amlwg a gyda phresenoldeb yn cynyddu, ymddygiad yn gwella a dysgwyr a theuluoedd sydd wedi ymgysylltu'n well. Da iawn bawb."

Medrir gweld yr adroddiad llawn yma - https://www.estyn.gov.wales/estyn.gov.wales/thematic-reports/supporting-pupils-with-adverse-childhood-experiences-0


Nodyn:

- Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (2015) yn diffinio profiadau niweidiol yn ystod plentyndod fel profiadau trawmatig neu anodd sy'n digwydd yn ystod plentyndod sy'n niweidio plentyn yn uniongyrchol neu'n effeithio ar yr amgylchedd y maent yn byw ynddo ac a gofir drwy gydol bywyd fel oedolyn. Mae profiad niweidiol yn ystod plentyndod yn golygu bod yn agored i un neu fwy o'r ffactorau hyn:

• Camddefnydd llafar a/neu feddyliol
• Cam-drin corfforol
• Cam-drin rhywiol
• Gwahaniad gelyniaethus rhieni
• Trais domestig
• Salwch meddwl rhiant
• Cam-drin alcohol
• Cam-drin cyffuriau
• Esgeulustod
• Cam-drin rhiant (Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2015)