Cwrs GIG ar-lein newydd yn helpu pobl i wella eu hiechyd meddwl

Gall teimlo'n bryderus neu'n orbryderus gael effaith fawr ar eich iechyd, ac i rai pobl, gall bywyd ar hyn o bryd fod yn arbennig o anodd.

Mae Gwelliant Cymru, ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynnig mynediad am ddim i bawb yng Nghymru sydd dros 16 oed at gwrs fideo hunangymorth ar-lein a ddyluniwyd i'w helpu i ddeall eu teimladau, a'u galluogi i gymryd mwy o reolaeth dros eu gweithredoedd fel bod bywyd bob dydd yn dod yn llai trallodus ac yn fwy pleserus.

Dyluniwyd y cwrs fideo pedair rhan “Bywyd Actif” gan Dr Neil Frude i rannu ffyrdd ymarferol ac effeithiol o ddelio â meddyliau a theimladau a allai fod yn achosi straen. 

Dywedodd Andrea Gray, Arweinydd Datblygu Iechyd Meddwl yn Gwelliant Cymru:

“Gall unrhyw un brofi pryder ar unrhyw gam o’i fywyd a gall effeithio arnoch chi mewn sawl ffordd. Rydym yn byw trwy gyfnod anghyffredin iawn ar hyn o bryd, lle gall gorbryder fod yn uwch a lle na fydd mecanweithiau ymdopi neu rwydweithiau cymorth arferol mor hygyrch ag arfer o bosibl.

“Mae'r fideos hunangymorth hyn ar gael am ddim a gallwch gael mynediad atynt pryd bynnag y mae'n addas i chi. Gallant ddysgu technegau a strategaethau i chi a fydd yn eich helpu i reoli ac i fyw eich bywyd gyda mwy o hyder a chydag ymdeimlad gwell o bwrpas. Gallant eich helpu chi i ddarganfod yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i chi a gallwch hyd yn oed ystyried y cwrs yn daith i ddarganfod eich hun"

Nid oes angen i chi gael eich cyfeirio gan eich meddyg teulu nac unrhyw un arall i gymryd rhan yn y cwrs. Ewch i https://icc.gig.cymru/bywydactif a dechreuwch y fideo ar-lein gyntaf.

  • Bywyd Actif Poster

Bywyd Actif Gweithgareddau/Taflen

  • Bywyd ACTif - ACT 1 - Gweithgareddau
  • Bywyd ACTif - ACT 1 - Taflen
  • Bywyd ACTif - ACT 2 - Gweithgareddau
  • Bywyd ACTif - ACT 2 - Taflen
  • Bywyd ACTif - ACT 3 - Gweithgareddau
  • Bywyd ACTif - ACT 3 - Taflen
  • Bywyd ACTif - ACT 4 - Gweithgareddau
  • Bywyd ACTif - ACT 4 - Taflen