Cwblhau Adnewyddu Adeilad The Tredegar Arms a'i Agor i'r Cyhoedd

Mae adeilad lleol pwysig yn Nhredegar wedi ail-agor heddiw. Cafodd The Tredegar Arms ei adnewyddu'n helaeth yn dilyn cynnig grant gan y Loteri Genedlaethol. Heddiw mae'r adeilad wedi agor ei ddrysau i'r gymuned fel gwesty a bwyty.
Mae The Tredegar Arms yn rhan allweddol o dirlun hanesyddol o adeiladau a gafodd eu codi adeg twf y dref o'r diwydiant dur ac roedd wedi dirywio'n fawr yn y cyfnodau diweddar. Cafodd ei ddefnyddio'n flaenorol fel tŷ coets ac roedd wedi mynd yn ddiffaith ers 2012. Roedd yr adeilad mewn cyflwr gwael, gyda difrod tân i'r lloriau uchaf. Derbyniodd y perchnogion gynnig cyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i gynorthwyo ei adnewyddu mewn ffordd cadwriaethol sensitif er mwyn darparu bwyty a gwesty yn Nhredegar. Dechreuodd gwaith adnewyddu sylweddol yn 2017.
Yn dilyn dwy flynedd o waith adnewyddu a buddsoddiad sylweddol, bydd The Tredegar Arms yn cynnig bwyty a chyfleusterau bar, gwesty gyda 10 ystafell wely ac ystafell safon uchel ar gyfer digwyddiadau gyda mynediad i'r anabl.
Ariannwyd y prosiect gan nifer o bartneriaid, yn cynnwys y perchnogion, cyfraniadau grant Cynllun Treflun Treftadaeth yn cynnwys Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Rhaglen Lleoedd Llewyrchus  Llawn Addewid Llywodraeth Cymru, Cadw, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Benthyciad Canol Tref, cyllid preifat a Chronfa Grant Twristiaeth Busnesau Micro a Bach Llywodraeth Cymru.
Defnyddiwyd y cyllid i adnewyddu tu allan yr adeilad gyda deunyddiau a thechnegau traddodiadol i alluogi'r adeilad i ymddangos a gweithredu yn ôl ei gynllun gwreiddiol. Mae to llechi newydd, rendr calch a ffenestri codi pren ynghyd â phortico mynediad oedd yn rhan o'r adeilad gwreiddiol ond a gafodd ei dynnu yn ystod gwaith adeiladu blaenorol ac sy'n awr wedi ei ddylunio a'i integreiddio mewn modd sensitif. Adeiladwyd estyniad sy'n cynnwys yr ystafell digwyddiadau.
Cafodd tu mewn yr adeilad ei adnewyddu yn defnyddio deunyddiau ansawdd uchel i ddarparu'r cyfleusterau y bydd The Tredegar Arms yn eu cynnig i'r cyhoedd.
Dywedodd y Cyng Dai Davies, Aelod Gweithredol dros Adfywio a Datblygu Economaidd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:
"Rwy'n hynod falch y cafodd un o'n hadeiladau hanesyddol yn y fwrdeistref ei ail-agor yn dilyn gwaith adnewyddu helaeth ac y gall nawr gynnig cyfleusterau y gall y gymuned ac ymwelwyr i'r ardal eu mwynhau. Roedd yr adeilad yn rhan o gynllun cyllid a dderbyniodd gynnig grant drwy Gynllun Treftadaeth Treflun Tredegar, oedd yn bosibl diolch i'r Loteri Genedlaethol.
“Yn ogystal â helpu i gadw ein treftadaeth unigryw, mae'r grant yn fuddsoddiad sylweddol fydd yn cyfrannu at egni economaidd yr ardal. Dymunaf bob llwyddiant i The Tredegar Arms."
Ychwanegodd Richard Bellamy, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cymru: "Diolch i bobl sy'n chwarae'r Loteri Genedlaethol, mae adeiladau pwysig a hanesyddol fel hwn ar draws Cymru yn mwynhau oes newydd. Mae diweddaru'r adeilad a rhoi diben newydd iddo yn ei roi yn ôl yng nghanol y gymuned ac yn ei wneud unwaith eto yn ased ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae The Tredegar Arms yn un enghraifft ymhlith llawer o sut mae cyllid y Loteri Genedlaethol yn helpu i drawsnewid Tredegar a gwneud gwahaniaeth go iawn i fywyd lleol.”
DIWEDD


• Mae'r Cynllun Treftadaeth Treflun yn darparu arian cyfatebol ar gyfer cyfraniadau perchnogion a chaiff ei gyllido gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, y Loteri Treftadaeth, Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, Benthyciad Canol Tref, cyllid preifat a Chronfa Grant Twristiaeth Busnesau Micro a Bach Llywodraeth Cymru.

•  I gael mwy o wybodaeth am The Tredegar Arms ac i archebu'r cyfleusterau anfonwch e-bost at  reservationsta@outlook.com