Cronfa Effaith BG yn Cynorthwyo Busnes Newydd Rheoli Eiddo

Mae Reoli Cyf wedi manteisio'n ddiweddar o grant Busnes Effaith BG sydd wedi galluogi prynu eitemau cychwynnol i lansio eu busnes i'r farchnad rheoli eiddo.

Mae Reoli yn ffordd newydd i landlordiaid reoli eu hanheddau, tenantiaethau a chasglu rhent yn defnyddio gwasanaeth cwmwl. Gyda dull gweithredu symudol yn gyntaf, mae'r llwyfan ar y we yn galluogi landlordiaid i lanlwytho dogfennau, anfon negeseuon i denantiaid, paratoi adroddiadau, casglu rhent a mwy ac arbed arian i landlordiaid ar ffioedd asiant rhentu yn y broses.

Ynghyd â bwrdd dangos i denantiaid a dolen uniongyrchol i lwyfan cyfrifeg cwmwl QuickFile, nid yw landlordiaid mwyach yn wynebu baich gweinyddol neu'r costau'n gysylltiedig gyda phortffolio eiddo y mae'r perchnogion yn ei reoli eu hunain.

Sylwodd Jemma Morgan a Matthew Parker, cyd-sefydlwyr Reoli Cyf y gallai fod bwlch yn y farchnad a mynychu sesiwn Galw Heibio Busnes yn llyfrgell Tredegar i amlinellu eu cynigion i sefydlu busnes.

Dywedodd Jemma sydd yng ngofal gweinyddiaeth feunyddiol y busnes:

"Diolch i Gronfa Busnes Effaith BG, mae gennym bopeth rydym ei angen i gychwyn Reoli; o'r offer hanfodol sydd ei angen i redeg ein llwyfan, i adnoddau marchnata proffesiynol. Roedd y broses yn rhwydd a chyflym, a gallwn yn awr symud ymlaen ar fenter addawol iawn".

Derbyniodd Reoli Cyf grant o £700 o Gynllun Cronfa Effaith BG a ddefnyddiwyd i brynu gliniadur, serfiwr a deunydd marchnata. Lansiwyd Cronfa Effaith BG fis Tachwedd diwethaf yn nigwyddiad Rhwydwaith Effaith BG a chaiff ei gweinyddu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i dargedu'n benodol y rhai sy'n dymuno cychwyn eu busnes eu hunain.

Gall unrhyw un sy'n meddwl am gychwyn eu busnes eu hunain neu fynychu un o'r sesiynau galw heibio wythnosol a gynhelir mewn llyfrgelloedd o amgylch y fwrdeistref neu gysylltu'n uniongyrchol â'r Uned Datblygu Economaidd ar 01495 355700 i gael mwy o fanylion.

Dywedodd y Cyng Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

"Rwy'n falch fod Reoli Cyf wedi cael Grant Busnes Effaith BG. Mae'r grant yma wedi eu cynorthwyo i ddatblygu a lansio eu syniad busnes, gan felly gadw sgiliau ac annog twf economaidd yn yr ardal. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddynt. Rwy'n annog busnesau, p'un ai oes ganddynt syniad posibl neu'n fusnes newydd neu fusnes presennol i ymweld ag un o'n sesiynau i weld sut y gall ein tîm Datblygu Economaidd eich helpu. Mae manylion ar gael ar wefan y Cyngor neu drwy gysylltu â'r tîm."