Cronfa Effaith BG yn cynorthwyo Busnes Hylendid newydd

Gyda dros 26 mlynedd o brofiad mae Anachem, sy'n seiliedig yn y Ganolfan Arloesedd yng Nglynebwy, yn cynnig cyngor arbenigol mewn cyflenwi a chynhyrchu nwyddau glanhau penodol ar gyfer sectorau diwydiant ac yn cynnig ymweliadau safle am ddim i fusnesau i baratoi adroddiad busnes pwrpasol heb rwymedigaeth.

Dywedodd Alan Perry o Anachem "Ar ôl ymchwil gofalus a helaeth fe wnaethom benderfynu symud i Flaenau Gwent a'r Ganolfan Arloesedd yn neilltuol oherwydd ansawdd y cyfleusterau, y lesau hyblyg sy'n galluogi ehangu rhwydd a'r cymorth busnes a gynigir gan y Cyngor a Busnes Cymru.
Derbyniodd Anachem grant o Gronfa Fusnes Effaith BG i gynorthwyo gyda chostau cysylltiedig â sefydlu gwefan.

Ers ei lansio ym mis Tachwedd 2017, mae Cronfa Fusnes Effaith BG wedi cefnogi 11 o fusnesau newydd ym Mlaenau Gwent a chaiff ei weinyddu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i dargedu'n benodol y rhai sy'n dymuno sefydlu eu busnes eu hunain.

Gall unrhyw un sy'n ystyried cychwyn eu busnes eu hunain fynychu un o'r sesiynau galw heibio busnes wythnosol a gynhelir mewn llyfrgelloedd o amgylch y fwrdeistref neu gysylltu'n uniongyrchol â'r Uned Datblygu Economaidd ar 01495 355700 i gael mwy o fanylion.

Dywedodd y Cyng Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Blaenau Gwent:

“Rydym yn angerddol am annog a chroesawu busnesau newydd i'r ardal a helpu gyda chostau cychwyn busnes drwy Gronfa Effaith BG. Rydym yn hynod falch fod Anachem wedi dewis yr ardal hon ac estynnwn ein dymuniadau gorau iddynt ar gyfer y dyfodol.”