Cronfa Effaith BG yn cefnogi Menu4Life

Bu Tîm Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn gweithio'n agos gyda chyfarwyddwr cwmni newydd Menu 4 Life i helpu mynd â'u busnes i'r farchnad.

Mae'r gefnogaeth hon wedi cynnwys cynllunio a rhagolygon busnes, help i sicrhau cyllid grant cychwyn busnes, cymorth gyda marchnata a hysbysebu yn ogystal â help gyda chysylltu gyda rhwydwaith eang o ddarpar gleientiaid newydd. Bu cyllid grant Effaith BG hefyd yn werthfawr tu hwnt ac mae'r cyfarwyddwyr wedi canmol y Tîm Datblygu Economaidd am yr help un-i-un a gawsant, sydd wedi gwneud byd o wahaniaeth wrth iddynt symud at hunan-gyflogaeth.

Er mai cwmni newydd yw Menu 4 Life, mae gan y cyfarwyddwyr rhyngddynt dros 50 mlynedd o brofiad ym maes darparu gwasanaethau holistig, anfeddygol, ataliol yn cwmpasu llesiant emosiynol, corfforaethol a maeth. Bydd yr ymgynghoriaeth newydd yn gweithio gydag ysgolion, grwpiau cymunedol ac ystod eang o gyrff yn y sector preifat a hefyd y sector cyhoeddus i gefnogi'r gymuned leol. Bydd eu rhaglenni yn cynnwys hyfforddi'r hyfforddwr a hefyd gomisiynu gwasanaethau darpariaeth uniongyrchol.

Hoffai cyfarwyddwr Menu 4 Life ddiolch i Sarah Jeremiah a'r tîm yn Effaith Blaenau Gwent am eu help wrth gynllunio a lansio eu hymgynghoriaeth newydd. Heb y gefnogaeth hon, teimlant na fyddent wedi paratoi cystal nac mor hyderus wrth lansio eu busnes.

Dywedodd y Cyng Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Sir Blaenau Gwent:

“Rwyf wrth fy modd clywed am lansio Menu 4 Life a hoffwn ddymuno'n dda iawn i'r busnes ar gyfer y dyfodol. Mae ein tîm Datblygu Economaidd yn rhoi cymorth i'r rhai sy'n dymuno sefydlu eu busnes eu hunain ac mae'n hyfryd clywed am eu hymroddiad, proffesiynoldeb ac ymrwymiad wrth ddarparu'r holl help sydd ei angen i sefydlu'r busnes newydd yma.”

Bu cymorth Cronfa Effaith BG ar gael i 15 o fusnesau newydd ym Mlaenau Gwent ers ei gyflwyno ym mis Tachwedd 2017 a chaiff ei weinyddu gan CBS Blaenau Gwent. Gall unrhyw un sy'n ystyried sefydlu eu busnes eu hunain fynychu un o'r sesiynau galw heibio wythnosol i fusnesau mewn llyfrgelloedd o amgylch y fwrdeistref neu gysylltu'n uniongyrchol â'r Uned Datblygu Economaidd ar 01495 355700 i gael mwy o fanylion.