Côr Rhyng-genhedlaeth o Gymru yn serennu mewn fideo arbennig cyfnod clo o ‘Symphony’, sengl rhif 1 Clean Bandit

• Mae Côr Cyswllt Rhyng-genhedlaeth Brynmawr yn ymddangos ar recordiad newydd o ‘Symphony’, sengl Clean Bandit a gyrhaeddodd rif un yn siartiau Prydain
• Ynghyd â sêr cerddorol: Zara Larsson, Emeli Sande, Nothing But Thieves, Declan McKenna, RAYE, Becky Hill, Mahalia, Tom Grennan, Sinead Harnett a RAY BLK
• Mae’r gân yn diolch i ‘The Big Night In’ sydd hyd yma wedi codi £70 miliwn o gyllid hanfodol i gefnogi prosiectau yn gweithio ym Mhrydain ar reng flaen y pandemig Covid-19.
• Caiff y fideo cerdd ei ddangosiad cyntaf ar BBC 1 The One Show heno a bydd ar gael ar YouTube o pm yma.

Mae côr rhyng-genhedlaeth o Gymru wedi ymuno gyda’r band llwyddiannus Clean Bandit a Comic Relief i ddiolch i’r cyhoedd am gefnogi ‘The Big Night In’.

Mae Côr Cyswllt Rhyng-genhedlaeth Brynmawr wedi recordio lleisiau corawl yn rhithiol i sengl ‘Symphony’ Clean Bandit, a gyrhaeddodd rhif 1 ym Mhrydain ac a fu’n llwyddiannus iawn ym mhedwar ban byd, ynghyd â chorau cymunedol eraill a gefnogir gan yr elusen. Mae’r côr yn derbyn cyllid gan Comic Relief ac mae’n cynnwys disgyblion o Ysgol Eglwys yng Nghymru Santes Fair, tenantiaid hŷn cymdeithas tai United Welsh a chymuned Brynmawr.

Byd dangosiad cyntaf y fersiwn arbennig o’r gân ar ‘The One Show’ ar BBC One heno i ddiolch i’r cyhoedd am gefnogi The Big Night In – apêl codi arian ar y cyd gan BBC Plant mewn Angen a Comic Relief a ddarlledodd noson arbennig o deledu ar 23 Ebrill. Mae’r apêl wedi codi £70 miliwn hyd yma i helpu prosiectau ar draws y Deyrnas Unedig yn gweithio ar reng flaen argyfwng Covid-19.

Perfformir y gerddoriaeth gan Clean Bandit, gyda phenillion yn cael eu canu gan artistiaid recordio blaenllaw o Brydain yn cynnwys: Zara Larsson, Emeli Sande, Nothing But Thieves, Declan McKenna, RAYE, Becky Hill, Mahalia, Tom Grennan, Sinead Harnett a RAY BLK.  Cynhyrchydd y trac oedd Mark Ralph, cynhyrchydd a chymysgwr llwyddiannus iawn o Brydain ac a enwebwyd ar gyfer gwobr Ivor Novello.

Oherwydd Covid-19 nid yw’r côr yn medru cwrdd dod ynghyd yn gorfforol ond bu’r plant sy’n cymryd rhan yn y prosiect yn anfon negeseuon at eu cyfeillion corawl hŷn yn United Welsh ac yn dosbarthu pecynnau bwyd. Bu’r plant ac oedolion hŷn hefyd yn ffonio ac anfon negeseuon testun yn rheolaidd i godi hwyliau ei gilydd.

Dywedodd Andrea Withers, Hwylusydd Cyswllt United Welsh: “Dangosodd y cyfnod anodd hwn fod y cyfeillgarwch a sefydlir yn mynd tu hwnt i ymarferiadau côr  - bu rhai o’r plant hefyd yn mynd heibio ffenestri oedolion hŷn pan fyddant yn mynd ar eu hymarfer dyddiol fel y gallant godi llaw a dweud helo wrth ei gilydd.”

Siaradodd rhai o sêr Côr Cyswllt Rhyng-genhedlaeth Brynmawr am eu profiad o fod yn rhan o’r côr:

Dywedodd Alfie Danter, 10 oed – Aelod o Gôr United Welsh: “Mae’r côr wedi fy helpu i wneud ffrindiau newydd gyda phobl hŷn. Rwyf wrth fy modd yn gweld fy holl ffrindiau newydd yn gwenu gan fod hyn yn fy ngwneud yn hapus iawn. Rydyn ni’n canu, siarad a chael hwyl a gwrando ar straeon ein gilydd. Rwyf hefyd yn mwynhau dysgu a chanu caneuon o’r gorffennol yr oedd ein ffrindiau hŷn yn eu canu pan oeddent yn iau. Mae’r côr wedi rhoi llawer mwy o hyder i fi i fedru siarad gyda phobl o bob oed.

Dywedodd Mabel Morgan, 11 oed – Aelod o Gôr United Welsh: “Mae bod yn rhan o’r Côr Rhyng-genhedlaeth wedi helpu ac wedi fy newid mewn llawer o ffyrdd. Mae wedi rhoi cyfle i gwrdd a gwneud ffrindiau newydd, tebyg i fy ffrind Eileen. Rydyn ni’n sgwrsio am yr hyn y buom yn ei wneud ar y penwythnos ac yn rhoi rhoddion i’n gilydd adeg pen-blwydd a’r Nadolig. Y rhodd gyntaf a gefais gan Eileen oedd balerina wedi ei gweu oherwydd ei bod yn gwybod fy mod yn dawnsio. Roeddwn wrth fy modd fod Eileen wedi gwneud hyn yn arbennig i fi, gan nad oedd wedi gweu am flynyddoedd lawer. Mae’n awr wedi ailgydio yn ei gweu, sydd mor hyfryd.”

Bydd dangosiad cyntaf y fideo cerdd ar BBC 1 The One Show heno a bydd ar gael ar YouTube o 8pm  https://www.youtube.com/watch?v=f6FoWCyEl4s&feature=youtu.be

Diolch i haelioni’r cyhoedd, mae ‘The Big Night In’ wedi codi dros £70 miliwn hyd yma o arian hanfodol i gefnogi prosiectau ym Mhrydain sy’n gweithio ar reng flaen y pandemig Covid-19. Mae hyn yn cynnwys prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl fregus ifanc ac oedrannus, pobl sy’n ddigartref neu’n byw mewn tlodi mawr, menywod a theuluoedd sydd mewn risg o gam-drin domestig, cymunedau BAME y mae coronafeirws yn effeithio’n anghymesur arnynt, a’r rhai sy’n cael trafferthion gyda phroblemau iechyd meddwl, ynysu a phrofedigaeth. Mae manylion pellach ar y cyllid a ddyrannwyd gan BBC Plant mewn Angen a Comic Relief ar gael   https://www.comicrelief.com/news/one-month-on-from-big-night-in-and-over-36-million-helping-vulnerable-people-affected-by-covid19/


Aiff pob ceiniog a gyfrannir at The Big Night In yn uniongyrchol i’n gwaith elusennol i helpu’r rhai y mae’r argyfwng coronafeirws wedi taro galetaf arnynt. Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i gyfrannu punt am bob punt a gyfrannir at The Big Night In tan 23 Mehefin.