Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cynghori ceidwaid adar ym Mlaenau Gwent bod angen iddynt gofrestru eu hunain gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar ôl iddo ddod yn ofyniad cyfreithiol yn gynharach y mis hwn.
Yn flaenorol, o dan y gyfraith, dim ond ceidwaid gyda 50 neu fwy o adar oedd angen cofrestru.
Fodd bynnag, ers 1 Hydref 2024, mae’r gofyniad cyfreithiol newydd yn golygu bod yn rhaid i geidwaid dofednod ac adar caeth eraill gofrestru waeth beth fo maint eu haid.
Mae Swyddogion Iechyd Anifeiliaid yn annog ceidwaid adar nad ydynt wedi cofrestru eu hunain gyda’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) i wneud hynny ar unwaith. Drwy gofrestru byddwch yn derbyn diweddariadau ac arweiniad os oes achos o glefyd, fel ffliw adar, yn eich ardal.
Byddwch hefyd yn helpu i atal clefydau rhag lledaenu ac yn amddiffyn yr holl adar a gedwir, gan gynnwys heidiau iard gefn.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Leoedd a’r Amgylchedd:
“Bydd y gofynion cofrestru newydd yn helpu ceidwaid adar i ddiogelu eu heidiau a derbyn diweddariadau pwysig a chyfathrebu amserol. Bydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn cysylltu â cheidwaid adar os oes achos o glefyd hysbysadwy yn eu hardal i roi gwybod iddynt am y camau gweithredu y mae angen iddynt eu cymryd i ddiogelu iechyd eu hadar. Mae pob dofednod, boed yn haid fasnachol fawr neu ychydig o anifeiliaid anwes iard gefn mewn perygl o gael clefydau heintus felly rhowch wybod i’r APHA i ddiogelu iechyd eich adar os ydych yn amau unrhyw beth.”
Bydd yn ofynnol i geidwaid adolygu eu cofnod ar y gofrestr yn flynyddol i sicrhau bod eu manylion yn gyfredol a bod unrhyw newidiadau yn cael eu cofnodi.
Mae rhai mathau o adar caeth sy'n cael eu cadw fel anifeiliaid anwes ac sy'n byw dan do yn unig heb unrhyw fynediad allanol, wedi'u heithrio rhag cofrestru.
I gael gwybod mwy ewch i www.gov.uk/poultry-registration