Cefnogi pobl ifanc i addysg a gwaith

Caiff y rhaglenni Ysbrydoli i Weithio ac Ysbrydoli i Gyflawni a gyllidir gan Ewrop eu cydlynu gan Gyngor Blaenau Gwent ar gyfer yr ardal a'u cyflwyno'n lleol gan Wasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent.

Hyd yma cefnogwyd 500 o bobl ifanc Blaenau Gwent nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) neu mewn risg o ddod yn NEET.  Caiff pobl ifanc eu cefnogi yn yr ysgol a thu fas i'r ysgol gan weithwyr ieuenctid, drwy gefnogaeth un-i-un a gwaith grŵp gan eu helpu i oresgyn unrhyw rwystrau i gyflawni eu potensial.

A gyda'r newyddion y cafodd cyllid ar gyfer y cynlluniau yn awr ei gymeradwyo hyd 2022, mae cynlluniau i ymestyn y cynllun ymhellach drwy roi ystyriaeth i iechyd meddwl a lles pobl ifanc a'r effaith y gall hyn ei gael arnynt wrth gael mynediad i addysg bellach, hyfforddiant neu waith.

Cafodd Pwyllgor Craffu Addysg y Cyngor eu diweddaru ar lwyddiant y prosiect pan wnaethant gwrdd yr wythnos yma.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Meredith, Aelod Gweithredol Addysg Cyngor Blaenau Gwent:

"Mae'n wych gweld y prosiectau hyn a gyllidir gan Ewrop yn cefnogi ein pobl ifanc pan maent fwyaf ei angen a'u helpu i oresgyn rhwystrau i addysg neu waith. Rydym yn awr yn gweithio gyda'n partneriaid i wneud rhai ychwanegiadau cadarnhaol i'r prosiectau fydd yn wirioneddol yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a llesiant y bobl ifanc yr ydym yn gweithio gyda nhw, yn arbennig ar gyfnodau pontio allweddol yn eu bywydau.

"Rwy'n falch iawn ein bod wedi gweld gostyngiad mawr yn nifer y bobl ifanc NEET yma ym Mlaenau Gwent dros yr ychydig flynyddoedd ddiwethaf. Mae gennym yn awr fwy o bobl ifanc sy'n economaidd weithgar ac yn bwysicaf oll, bobl ifanc a gafodd help i gyrraedd eu potensial llawn."

Y targedau cyffredinol ar gyfer oes y prosiectau yw:

● Ysbrydoli i Gyflawni (11-16)

- Cyfanswm nifer y bobl ifanc a gefnogir: 1,316.

- 92 o bobl ifanc yn ennill cymwysterau

- Cefnogi 264 o bobl ifanc i addysg bellach neu hyfforddiant

- 658 o bobl ifanc yn cyflwyno gyda llai o risg o ddod yn NEET (gwelliannau mewn presenoldeb, cyrhaeddiad, ymddygiad a llesiant).

 

● Ysbrydoli i Weithio (16-24)

- Cyfanswm nifer y bobl ifanc a gefnogir: 780

- 390 o bobl ifanc yn ennill cymwysterau

- Cefnogi 156 i addysg bellach neu hyfforddiant

- Cefnogi 156 o bobl ifanc i gael cyflogaeth.

 

I gael mwy o wybodaeth ar Ysbrydoli i Gyflawni ewch i – http://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/ysgolion-a-dysgu/gwasanaethau-ieuenctid/ysbrydoli-i-gyflawni/

 

I gael mwy o wybodaeth ar Ysbrydoli i Weithio ewch i - http://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/ysgolion-a-dysgu/gwasanaethau-ieuenctid/ysbrydoli-i-weithio/