Cefnogi disgyblion sydd wedi eu hallgau’n ddigidol

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn gweithio gyda’i ysgolion a darparydd technoleg gwybodaeth, y Gwasanaeth Rhannu Adnoddau (SRS) i gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi eu hallgau’n ddigidol ar draws y Fwrdeistref Sirol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cefnogaeth ariannol i gefnogi’r datblygiadau.

Ers i ysgolion gau fel canlyniad i bandemig Covid-19, cafodd rhieni/gofalwyr eu hannog i barhau gyda dysgu yn eu cartrefi drwy ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau ar-lein a bu ein staff addysgu yn gweithio’n galed i osod gwaith, rhoi cefnogaeth ac ennyn diddordeb dysgwyr.

Drwy weithio gydag ysgolion a rhieni, rydym wedi dynodi fod tua 1,400 o ddisgyblion wedi eu hallgau’n ddigidol ar hyn o bryd, naill ai drwy ddiffyg cysylltedd (WIFI) yn eu cartrefi neu drwy beidio bod â mynediad i ddyfais electronig addas.

Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae’r Cyngor, ysgolion a’r SRS wedi dechrau ar brosiect newydd i adnewyddu dyfeisiau diwedd oes a ystyrir yn addas o fewn ysgolion a’u dosbarthu i’r dysgwyr hyn. Mae’r Cyngor hefyd wedi prynu nifer o ddyfeisiau MIFI i roi mynediad i’r rhyngrwyd yn eu cartrefi i’r dysgwyr hynny nad oes ganddynt gysylltiad rhyngrwyd ar hyn o bryd.

Mae’r gwaith eisoes wedi dechrau ar adnewyddu’r dyfeisiau hyn ac mae partneriaid y prosiect wedi dechrau dosbarthu’r dyfeisiau’n ddiogel i ddisgyblion ar sail blaenoriaeth, gan ganolbwyntio ar y disgyblion mwyaf bregus a grwpiau blynyddoedd uwch i ddechrau.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg ym Mlaenau Gwent:

“Bu’n rhaid i ysgolion ar draws y sir gau’n gyflym er budd iechyd cyhoeddus a chawsom ein hunain mewn sefyllfa na welsom mohoni erioed o’r blaen lle’r oedd yn rhaid i awdurdodau lleol ac ysgolion symud yn gyflym i ddysgu o bell.

Er y bydd ysgolion yn ail-agor mewn camau o ddiwedd mis Mehefin, mae’n glir fod dysgu ar-lein yma i aros, ac yn rhan o’r ‘normal newydd’ ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc. Mae’n bwysig fod pob disgybl beth bynnag eu hamgylchiadau yn medru cael mynediad i ddysgu yn y ffordd yma ac nad ydynt dan anfantais. Rwy’n falch iawn o’r ffordd yr ydym wedi gweithio’n gyflym ac yn gadarnhaol gyda’n hysgolion a’n timau Technoleg Gwybodaeth i sicrhau datrysiad i gefnogi’r disgyblion hyn a’u teuluoedd.”