Cartrefi Newydd I Flaenau Gwent

Bydd cymdeithas tai United Welsh yn creu 23 o gartrefi ar gyn safle yr Ysgol Babanod yn Sirhywi.

Derbyniodd y datblygiad gyllid o bron £2.1m o Raglen Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Gan weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Pendragon, bydd United Welsh yn datblygu 4 fflat un ystafell wely, 2 fflat dwy ystafell wely, 13 tŷ dwy ystafell wely a 4 tŷ tair ystafell wely, ar gost o dros £2.8m.

Dywedodd Richard Mann, Cyfarwyddydd Gweithrediadau United Welsh: "Rydym yn falch iawn i fod yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Llywodraeth Cymru i ddarparu'r cartrefi newydd hyn y mae cymaint o angen amdanynt.

"Mae'n werth chweil parhau i gyflenwi cartrefi cynaliadwy ar gyfer pobl leol a chreu cymunedau newydd."

Dywedodd y Cyng Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Blaenau Gwent: "Rwy'n falch i groesawu datblygiad tai arall o'r radd flaenaf gan United Welsh i'r fwrdeistref sirol".