Yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu (16-22 Hydref), mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru (NAS) yn parhau ei ymdrechion i annog mwy o bobl i ystyried mabwysiadu. Daw hyn wrth i grwpiau o siblingiaid, plant ag anghenion arbennig, a phlant hŷn yng Nghymru barhau i chwilio am eu ‘cartref am byth’.
Mae NAS yn datgelu ystod o fideos addysgol i fynd i'r afael â chamsyniadau am fabwysiadu a chynorthwyo'r rhai sy'n teimlo efallai nad ydynt yn gymwys i fabwysiadu.
Yr wythnos hon, nod NAS yw ail-lunio barn y cyhoedd trwy chwalu hen fythau a chyflwyno profiadau go iawn.
Mae nifer o fabwysiadwyr o Gymru wedi ymuno â'r fenter hon, gan ymddangos mewn fideos ac ysgrifennu blogiau i ledaenu ymwybyddiaeth. Mae rhieni sy’n mabwysiadu siblingiaid o Wasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru (SEWAS) yn esbonio pam y gwnaethant gymryd rhan:
‘’Mae fy mhartner a minnau bob amser wedi dweud y byddem yn ymddiried yn y broses fabwysiadu. Ni fyddem yn dewis ein plant, ond byddent yn ein dewis ni. Saith mlynedd yn ôl fe wnaethom dderbyn y pariad sibling cyntaf a gynigiwyd i ni gan SEWAS. Mae ein teulu yn fwy cyflawn nawr nag y bu erioed - ni fyddem yn dymuno iddo fod unrhyw ffordd arall! Diolch i SEWAS am ein helpu i ddod o hyd i’n darnau coll.’’
Yn ogystal â rhannu straeon mabwysiadu, mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru wedi bod yn cynyddu gwybodaeth am fabwysiadu gyda chymunedau ledled y DU, trwy eu podlediad gwobrwyog, Dweud y Gwir yn Blaen: Straeon Mabwysiadu.
Canmolwyd y ddwy gyfres o’r podlediad dwyieithog, a oedd yn cynnwys straeon gan saith teulu mabwysiadol ochr yn ochr â phennod arbennig, a gynhyrchwyd ac a gyflwynwyd gan bobl ifanc a fabwysiadwyd, am ei olwg onest ar fabwysiadu.
Eglurodd Tasha, athrawes a fabwysiadodd ddau sibling ag anghenion dysgu ychwanegol drwy Wasanaeth Mabwysiadu Canolbarth Cymru ac a gymerodd ran yng nghyfres un o’r podlediad:
“Pan anfonais fy e-bost o ddiddordeb [i fabwysiadu], roedd fy nheulu’n dweud wrthyf na fyddai ‘nhw’ eisiau fi oherwydd fy mod yn sengl, mae gen i swydd amser llawn, mae gen i gi. Meddyliais ‘Pam na fydden nhw eisiau fi?’
“Fe es i mewn gyda meddwl agored iawn. Yn amlwg roedd yn rhaid i mi ystyried bod fy nheulu yn byw 2 ½ awr i ffwrdd, fodd bynnag, roeddwn yn ymwybodol bod llawer o blant hŷn (oedran ysgol i fyny) yn aml yn aros hiraf”.
“Roedd fy ngweithiwr cymdeithasol yn wych, ac roeddwn i wedi bod mewn cysylltiad â’r teulu maeth. Felly, pan ddes i â nhw adref, wnes i ddim rhoi’r gorau i’r drefn roedden nhw wedi’i hadeiladu yn nhŷ eu gofalwr maeth. Fe wnes i hyd yn oed barhau gyda’r ysgytlaeth siocled cyn mynd i’r gwely gan mai dyna wnaeth eu gofalwyr maeth”.
“Roedd fy merch yn eithaf sensitif i rai pethau, ac fe wnaethon ni weithio arnyn nhw gyda hi dros amser. Roedd sylwi ei bod yn dechrau rhoi’r gorau i’r sbardunau hyn yn arwydd i mi ei bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir.”
Pob cwr o Gymru yn cymryd rhan
Bydd gweithgarwch rhanbarthol ledled Cymru yn digwydd yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu a'r wythnosau nesaf.
Ddydd Mercher 18 Hydref, bydd Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn cwblhau eu taith gerdded 402 milltir o hyd Llwybr Arfordir Gogledd Cymru, sydd wedi bod yn digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda digwyddiad arbennig yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam gyda’r maer.
Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin hefyd yn cynnal taith gerdded, gyda phob cyfranogwr yn cerdded mewn parau neu grwpiau, i gynrychioli'r ffaith bod grwpiau o siblingiaid yn aros.
Bydd Gwasanaeth Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd, a Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnal nosweithiau gwybodaeth ac yn rhannu cynnwys chwalu mythau i helpu darpar rieni mabwysiadol i ddysgu mwy am y broses fabwysiadu.
Mae Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru yn cyhoeddi blog am brofiadau bywyd go iawn o fabwysiadu, tra bydd Gwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant yn arddangos cyfres o ffilmiau byr, yn cynnwys mabwysiadwyr a pherson mabwysiedig.
Ochr yn ochr â hyn i gyd bydd gweithwyr proffesiynol mabwysiadu o bob rhan o Gymru yn dod at ei gilydd i ddathlu’r negeseuon cadarnhaol a’r gwaith sydd wedi bod yn digwydd i wella gwasanaethau ers i NAS ddod i fodolaeth.
Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru a Maethu Cymru:
“Rydyn ni’n gobeithio, yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu eleni, y bydd pobl sy’n meddwl am fabwysiadu ledled Cymru yn gweld y wybodaeth sy’n cael ei rhannu yn ddefnyddiol ac yn ysbrydoledig. Ein nod yw ateb llawer o'r cwestiynau a allai fod ganddynt am fabwysiadu grŵp o siblingiaid, plant ag anghenion mwy cymhleth neu blentyn hŷn. Mae ein gwasanaethau bob amser yn hapus i ddarparu mwy o wybodaeth.”
Am fwy o wybodaeth am fabwysiadu yng Nghymru: adoptcymru.com