Canopi Newydd Deighton ar gyfer Chwarae Awyr Agored

Mae'r ardal awyr agored amddiffynedig hon yn sicrhau bod plant yn gallu dysgu trwy chwarae y tu allan, beth bynnag yw'r tywydd. Fe'i hariannwyd gan Grant Datblygu Disgyblion Llywodraeth Cymru. Mae'r grantiau hyn yn darparu cymorth ariannol i helpu i fynd i'r afael ag effeithiau tlodi ar gyrhaeddiad.

Agorwyd y canopi yn swyddogol gyda Nick Smith, AS yn torri'r rhuban.  Meddai:

"Mae Ysgol Gynradd Deighton wedi blodeuo yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae arweinyddiaeth yr ysgol wedi derbyn nifer o wobrau. Mae'n wych gweld gwelliant yn ffabrig yr adeilad a fydd yn cefnogi dysgu mewn ysgol fach arbennig."

Ychwanegodd y Prifathro Mike Gough, "Roedd yn wych croesawu Nick Smith AS i Deighton ac i'r plant gael cyfle i'w helpu i agor y cyfleuster newydd hwn. Byddant yn elwa'n fawr iawn ohono ac mae angen cymeradwyo ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ecwiti ar ffurf grantiau i ysgolion. Mae Mrs Wangiel a'r staff hefyd wedi gweithio'n galed iawn i ddatblygu'r gofod hwn i ardal ddysgu ddeniadol sy'n gyfeillgar i blant. "