Canolfan seiber NDEC yn buddsoddi £1m yn ardal Glynebwy

Mae canolfan seiber arloesol Cymru wedi cyrraedd ei charreg filltir gynta ac yn symud yn dalog at ei llwyddiant busnes mawr cyntaf. Dyna fydd Gweinidog yr Economi , Trafnidiaeth a'r Gogledd, Ken Skates, yn ei gyhoeddi heddiw i nodi blwyddyn gyntaf y Ganolfan Genedlaethol Manteisio ar Dechnoleg - NDEC.
Yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adfywio'r cymoedd a datblygu'r economi sylfaenol, bydd y Gweinidog yn datgelu hefyd bod yr NDEC eisoes wedi buddsoddi £1m yn yr economi leol gyda 20 o'i 53 o gyflenwyr lleol yn dod o Lynebwy a bod 90 y cant o staff ei busnesau newydd yn dod o'r ardal.
Bydd arweinwyr byd busnes a chyhoeddus Cymru hefyd yn bresennol i glywed y cyhoeddiad bod Thales wedi cael contract sylweddol gyda GE Steam Power, un o brif gwmnïau pŵer y byd, i sicrhau diogelwch seiber ei gyfleusterau craidd. Daw elfennau pwysig o'r gwaith hwnnw i Gymru, i'w wneud gan y tîm yn yr NDEC.
Bwriad yr NDEC, partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, yr arweinydd technolegol Thales a Phrifysgol De Cymru, yw gwneud gwaith ymchwil a datblygu blaengar, cyflogi pobl leol trwy waith maes addysgol a meithrin arbenigedd seiber ar gyfer cyflogwyr mawr a busnesau bach yng  Nghymru.


Gan sôn am lwyddiant NDEC hyd yma, dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd, Ken Skates:
"Flwyddyn ers cyhoeddi bod Thales yn dod i Lynebwy i ddatblygu'r NDEC gyda ni, rwy'n falch iawn bod y prosiect yn cyrraedd ei gerrig milltir, eisoes wedi buddsoddi £1m yn yr economi leol ac yn gweithio i gyflenwi rhan o gontract newydd mawr ar gyfer Thales.
"Mae galluoedd cychwynnol yr NDEC eisoes yn agored i fusnes gyda chyfleuster seiber a busnes o'r radd flaenaf, a rhaglen addysg ar gynnydd gyda chysylltiadau â busnesau lleol.
"O fyfyrwyr PhD i brentisiaid, ac o staff i gyflenwyr, mae'r NDEC yn gatalydd ar gyfer twf technoleg a llwyddiant economaidd yn y cymoedd. Mae'r ganolfan yn ganolog i fenter y Cymoedd Technoleg a fydd yn helpu i weddnewid economi'r De yn un o ymchwil a datblygu, arloesi a ffyniant tymor hir. Bydd y ganolfan yn rhoi sylfaen wych ar gyfer gwneud hyn."

Dywedodd Eluned Morgan AC, y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol:
"Mae'r NDEC wedi helpu i godi proffil Cymru ar fap technoleg ddigidol y byd ac rwy'n falch iawn clywed bod Thales yn dod â'i gontract newydd gyda GE Steam Power i Lynebwy.
"Dyma ragor o dystiolaeth eto bod enw da Cymru'n dal i dyfu fel gwlad technoleg a chanolfan seiber o fri, ac mae'n fantais bellach i gwmnïau seiber ddweud eu bod yn fusnesau o Gymru.
"Rwy'n disgwyl ymlaen at drafod rhagor o gyfleoedd i berthynas Thales â Chymru pan fyddaf yn cwrdd â'u pennaeth diogelwch seiber, Laurent Maury, yn yr Unol Daleithiau yr wythnos hon."

Dywedodd Victor Chavez. Prif Weithredwr Thales UK:
"Rydym yn gweld Cymru, a'r NDECD yn arbennig, yn rhan hanfodol o bresenoldeb Thales yn y DU. Mae'r NDEC yn hanfodol i ddatblygu galluoedd diogelwch digidol fydd yn dod â gwaith cenedlaethol a rhyngwladol i Lynebwy. Y sgiliau hyn fydd wrth wraidd sicrhau systemau Technoleg Weithredol hanfodol fel y rheini sy'n cael eu datblygu gan GE Steam Power i sicrhau eu bod yn gallu goroesi yn yr amgylchedd seiber cyfoes. Mae'r NDEC yn gyfleuster unigryw i Gymru, ac rydym am gael y gorau o'r bartneriaeth arloesol hon rhwng llywodraeth, diwydiant ac academia."