Canlyniadau gwell ar Lefel A ac AS ar gyfer myfyrwyr yn Hafan Dysgu Blaenau Gwent

Ni ddylid tanbrisio'r ymdrechion sydd tu cefn i'r llwyddiant a dymunwn bob llwyddiant i'r holl bobl ifanc yn y camau nesaf y maent wedi eu dewis.

Dywedodd Lynette Jones, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg: "Llongyfarchiadau i'n holl fyfyrwyr heddiw. Dymuniadau gorau i'r holl fyfyrwyr wrth iddynt barhau ar eu taith ddysgu a symud ymlaen at ddyfodol llwyddiannus a bywydau bodlon".

Ychwanegodd y Cyng. Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg: "Da iawn a llongyfarchiadau i'n holl fyfyrwyr Lefel A ar set arall o ganlyniadau rhagorol heddiw. Mae'n wych gweld cynifer o'n disgyblion ôl-16 yn sicrhau'r canlyniadau a ddymunant i'w galluogi i barhau gyda'r llwybrau gyrfa y maent wedi eu dewis. Estynnwn y dymuniadau gorau oll ar gyfer y dyfodol i'r myfyrwyr ac mae'n rhaid i ni hefyd gydnabod waith caled, ymroddiad a chefnogaeth y staff addysgu a theuluoedd y myfyrwyr sydd i gyd yn rhan hanfodol o'r llwyddiant yma."