Caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer Ysgol Six Bells

Mae'r datblygiad yn rhan o brosiectau Ysgolion 21ain Ganrif y Cyngor sy'n anelu i foderneiddio'r stad ysgolion yn yr ardal ac i barhau i gyflawni ei ymrwymiad i wella safonau ysgolion a pherfformiad addysg ym Mlaenau Gwent.

Bydd yr ysgol yn disodli campysau Heol Bryngwyn a Stryd y Frenhines a bydd yn rhan o Gymuned Ddysgu Abertyleri a agorodd ym mis Medi 2016. Cefnogir yr ysgol £6.9 miliwn gyda chyllid gan y Cyngor a Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

Gweithiodd timau Addysg y Cyngor gydag aelodau'r gymuned leol i edrych ar sylwadau pobl leol ac arweiniodd hyn at newid nifer o agweddau o'r cais gwreiddiol. Mae'r Cyngor yn gobeithio parhau i weithio gyda'r gymuned yn y dyfodol ar faterion fydd yn ffurfio rhan o'r caniatâd cynllunio llawn y flwyddyn nesaf megis dyluniad manwl yr adeilad.

Dywedodd y Cynghorydd Keren Bender, Aelod Gweithrediaeth Addysg y Cyngor:

"Rwy'n croesawu penderfyniad y pwyllgor cynllunio i roi caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer ysgol gynradd gymunedol newydd yn Six Bells. Bydd ysgol newydd yn rhoi amgylchedd dysgu modern i blant yr ardal a'r cyfleusterau y maent yn eu haeddu a pharhau ymrwymiad y Cyngor i godi safonau addysg ac uchelgais yn ardal Abertyleri a Blaenau Gwent yn ei gyfanrwydd.

"Gallwn yn awr symud ymlaen i benodi contractwr ar gyfer y gwaith adeiladu a bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda phwy bynnag a benodir ar y materion a gadwyd a gytunwyd fel rhan o'r caniatâd. Dylai hyn roi sicrwydd cryf y byddwn yn parhau i gefnogi rhai o'r materion pwysig a ddynodwyd gan y gymuned cyn cyflwyno cais cynllunio llawn y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn cynnwys dyluniad terfynol yr adeilad, cadw mynediad a mannau gweld cofeb The Guardian, lleoedd parcio a mesurau priffordd a thraffig. Rydym wedi gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth Adfywio Six Bells i roi ystyriaeth i bryderon lleol ac arweiniodd hyn at welliannau i'r cynllun gwreiddiol. Rydym yn awr yn edrych ymlaen at symud ymlaen gyda'r datblygiad pwysig yma."

·         Agorodd Cymuned Ddysgu Abertyleri ym mis Medi 2016. Mae'n dod â'r pedair ysgol gynradd leol a'r ysgol uwchradd at ei gilydd i ddarparu addysg pob oed 3-16 ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae pump campws gwahanol, a ddaw'n bedwar pan fydd campysau Heol Bryngwyn a Stryd y Frenhines yn uno yn ysgol newydd. Mae gan y Gymuned Ddysgu Bennaeth ac Is-bennaeth a Phennaeth Campws ym mhob safle.