Canfod os ydych yn gymwys i dalu llai o Dreth Gyngor
Gyda’r argyfwng mewn costau byw yn effeithio ar filoedd o bobl ledled Cymru, dyma’r amser i wirio pa ddisgowntiau, eithriadau a chymorth arall y gallech fod â hawl iddynt.
Gallech fod yn gymwys am gymorth os ydych yn:
- Byw ar ben eich hun
- Gofalwr
- Gadael gofal
- Myfyriwr
- Byw gydag anabledd
- Byw gyda nam meddwl difrifol
- Derbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-dal gwaddol
Canfod mwy am Gynllun Gostwng y Dreth Gyngor.
Ewch i: www.llyw.cymru/talu-llai-o-dreth gyngor i ganfod os ydych yn gymwys.