Canfasiad Blynyddol 2020 | Annual Canvass 2020

Mae trigolion lleol yn cael eu rhybuddio i beidio â cholli eu llais ar benderfyniadau sy’n eu heffeithio drwy sicrhau bod eu manylion cofrestru i bleidleisio wedi eu diweddaru.
 
Gydag etholiadau’n digwydd yn Blaenau Gwent ym mis Mai 2021, mae hwn y gyfle pwysig i drigolion sicrhau y byddant yn gallu cymryd rhan.

Mae’r canfasiad blynyddol yn sicrhau bod y gofrestr etholiadol yn cael ei diweddaru, drwy adnabod y trigolion hynny nad ydynt wedi eu cofrestru ar hyn o bryd ac i annog y sawl sy’n gymwys o’r newydd i gofrestru.

Etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf yw’r tro cyntaf y bydd pobl 16-17 oed a dinasyddion tramor cymwysedig yn gallu pleidleisio. Felly, mae’n bwysig iawn bod y grwpiau hyn o bobl ar y gofrestr etholiadol. 

Mae’n bwysig bod trigolion yn cadw llygad am y llythyrau a’r ffurflenni canfasiad a fydd yn cael eu hanfon drwy’r post, er mwyn i ni fod yn siŵr bod y manylion cywir ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yn Blaenau Gwent. I wneud yn siŵr eich bod yn cael lleisio bran yn yr etholiadau y flwyddyn nesaf, dilynwch y cyfarwyddiadau yn eich llythyr.

Os nad ydych wedi eich cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw yn ymddangos ar y llythyrau rydym yn eu hanfon. Os ydych eisiau cofrestru, y ffordd hawddaf yw arlein yn www.gov.uk/register-to-vote, neu gallwn anfon gwybodaeth atoch yn esbonio sut i wneud hyn drwy’r post. Os yw eich manylion yn gywir ar y llythyr, nid oes angen i chi ail-gofrestru.

Mae canfasiad eleni, sy’n rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei wneud dan y gyfraith, yn digwydd yn ystod sefyllfa iechyd cyhoeddus heriol. Rydym yn gweithio i sicrhau ein bod yn cymryd canllawiau iechyd cyhoeddus i ystyriaeth, gan gynnwys pwysigrwydd cadw pellter cymdeithasol.”

Anogir pobl sydd wedi symud yn ddiweddar i gadw llygad allan am y llythyrau a gwirio’r manylion.

Mae ymchwil gan y Comisiwn Etholiadol yn awgrymu bod pobl sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar yn llawer llai tebygol o fod wedi eu cofrestru na’r sawl sydd wedi byw yn yr un cyfeiriad am amser maith.

Ledled Prydain, bydd 92% o bobl sydd wedi bod yn eu heiddo am fwy na 16 o flynyddoedd wedi eu cofrestru, o gymharu gyda 36% o bobl sydd wedi byw yn eu cyfeiriad am lai na blwyddyn.

Meddai Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru:

“Mae’n bwysig iawn bod pawb sydd â hawl i bleidleisio yn gallu gwneud hynny. Mae mwy o bobl a’r hawl i bleidleisio yng Nghymru nawr, gan gynnwys pobl 16-17 oed a dinasyddion tramor cymwysedig.
 
“Bydd gwneud yn siŵr eich bod yn darparu’r wybodaeth angenrheidiol i’ch awdurdod lleol pan fydd angen yn sicrhau bod y broses yn rhedeg yn llyfn. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol yn y sefyllfa iechyd cyhoeddus sydd ohoni, gan y bydd yn osgoi’r angen am ymweliad cartref gan ganfaswyr.

“Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol am gofrestru i bleidleisio ar ein gwefan yn https://www.electoralcommission.org.uk/i-am-a/voter.”

Gall trigolion sydd ag unrhyw gwestiynau gysylltu â thîm cofrestru etholiadol y cyngor drwy ffonio 01495 355086/88 neu ebostio: electoralservices@blaenau-gwent.gov.uk