Cafodd Hyb Dechrau'n Deg Cwm

Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen a gyllidir gan Lywodraeth Cymru sy'n rhoi gwasanaethau cefnogaeth ddwys o fewn ei raglen blynyddoedd cynnar ar gyfer teuluoedd gyda phlant dan 4 oed sy'n byw yn ardaloedd mwyaf amddifadus Cymru. Mae Dechrau'n Deg yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn ei hagenda Trechu Tlodi.

Pedair elfen greiddiol y rhaglen Dechrau'n Deg yw:

  • gwasanaeth estynedig ymwelydd iechyd
  • cefnogaeth ansawdd uchel i rieni
  • gwasanaethau datblygu iaith gynnar, a
  • gofal plant am ddim i blant dwyflwydd oed.

Caiff yr holl elfennau craidd uchod eu darparu yn yr hyb newydd a byddant yn cynnwys cefnogaeth bydwreigiaeth, rhaglen maeth cyn-enedigol, tylino baban, pwyso a chwarae, yoga babanod, rhaglen Teuluoedd ar eu Twf, Siarad Plant, rhaglen coginio i rieni, rhaglenni rhianta gydag achrediad, therapi iaith a lleferydd, cyngor ar gyflwyno bwyd llwy a diogelwch yn y cartref yn ogystal â gofal plant i blant dwyflwydd oed.

Mae 11 ardal Dechrau'n Deg o fewn ardal Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent. Derbyniodd CBS Blaenau Gwent gyllid cyfalaf yn werth £5 miliwn gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Loteri Fawr i ddatblygu 7 hyb Blynyddoedd Cynnar Dechrau'n Deg ac 1 Ganolfan Plant Integredig ar draws Blaenau Gwent rhwng 2005 a 2017. Hyb Dechrau'n Deg Cwm yw'r hyb olaf ym Mlaenau Gwent i gael ei gwblhau.

Dywedodd y Cynghorydd John Mason, Aelod Gweithrediaeth Gwasanaethau Cymdeithasol: "Mae gwreiddiau hybiau Dechrau'n Deg mewn cymunedau lleol. Byddant yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i ddiwallu anghenion plant ifanc a'u teuluoedd yn Cwm a bydd ganddynt hefyd rôl wrth ddod ynghyd â'r holl weithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn yr ardal i ddysgu o arbenigedd ei gilydd a rhoi cefnogaeth integredig a help ychwanegol fel mae teuluoedd ei angen."

Meddai Carl Sargeant, Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant: "Cefais y fraint o ymweld â llawer o osodiadau Dechrau'n Deg o amgylch Cymru a gweld drosof fy hun waith gwych Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol, ysgolion, y sector gwirfoddol, teuluoedd a chymunedau. Cafodd dros 38,000 o blant a'u teuluoedd eu cefnogi drwy'r rhaglen y llynedd, gan gyflawni ymrwymiad y Llywodraeth flaenorol o ddyblu nifer y plant sy'n cael budd o'r rhaglen.

"Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd rhan yn sefydlu'r prosiect yma yn Cwm a hoffwn ddymuno pob llwyddiant yn y dyfodol i bawb sy'n ymwneud â hyb newydd Dechrau'n Deg."