Cadw’n ddiogel yn ystod pandemig y coronafeirws

Nid yw pob cartref yn hafan ddiogel. I rai, gall ddatblygu yn fan lle mae ynysu yn cynyddu’r risg o drais a chael eich rheoli.

Tra bo’r rheolau i aros gartref mewn grym, ac wrth i ni hunanynysu, efallai bod angen i chi ailystyried sut i aros yn ddiogel yn y cartref.

Mae’n bwysig eich bod yn meddwl am sut y mae coronafeirws yn newid eich cynllun diogelwch

  • Bydd y person sy’n eich cam-drin yn debygol o fod yn y tŷ gyda chi
  • Efallai y bydd eich plant adref o’r ysgol
  • Efallai y bydd straen ychwanegol ar yr ochr ariannol
  • Efallai na allwch siarad â’r rhwydweithiau cymorth, eich teulu a’ch ffrindiau
  • Sut y bydd eich iechyd a’ch lles yn newid

Sut i gadw'n saff

  • Cadwch mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, pan fo modd i chi wneud hynny – mae nifer o apiau defnyddiol y gallwch eu defnyddio i gadw mewn cysylltiad gweledol: Skype, FaceTime, galwadau fideo, ond cofiwch wneud hyn mewn ffordd ddiogel. Efallai bod pobl eraill yn gwrando.
  • Meddyliwch am sut i gael cymorth mewn ffordd ddiogel, ac os oes modd i chi wneud hynny, cysylltwch â’ch gwasanaeth trais domestig lleol, neu cysylltwch â’r llinell gymorth i sefydlu cynllun i gadw’n ddiogel gartref neu gynllun i adael y cartref yn ddiogel
  • Sefydlwch gyfrinair neu arwydd i’w ddefnyddio mewn argyfwng i adael i’r rhai sy’n agos atoch wybod eich bod angen help ac i ffonio’r heddlu
  • Pan fo hyn yn bosibl, cadwch fag o eitemau hanfodol yn ddiogel wrth law, ystyriwch opsiynau ar gyfer ei gadw’n saff; a’i adael gyda chymydog yr ydych yn ymddiried ynddo
  • Defnyddiwch siopau lleol pan na fo slotiau siopa ar-lein ar gael, a siaradwch â rhywun.
  • Galwadau distaw i’r heddlu – ffoniwch 999 – yna gwasgwch 55 os nad oes modd i chi siarad (rhagor o wybodaeth yma)

Ddylai neb deimlo’n ofnus garter


Mae’r ymgyrch Ddylai neb deimlo’n ofnus gartre wedi cael ei lansio i roi gwybod i’r rhai sydd mewn perygl fod cymorth ar gael o hyd, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos trwy Fyw Heb Ofn.

Ymunwch â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio  #BywHebOfn

Lawrlwythwch ragor o wybodaeth, gan gynnwys fideos, posteri a delweddau i hyrwyddo’r ymgyrch.

Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol – hyfforddiant ar-lein

Os ydych yn dal i fod mewn sefyllfa i helpu’r rhai a allai fod mewn perygl uwch o gamdriniaeth, rydym eisiau i chi allu adnabod yr arwyddion. Rydym eisiau rhannu sut gall cymorth gael ei roi’n ddiogel, p’un a yw hynny gan un o’r miloedd o wirfoddolwyr sy’n cynorthwyo’r rhai mwyaf bregus o’n plith, contractwr brys, y gweithlu gwasanaethau post, siopau lleol neu weithwyr archfarchnad.

Dyna pam rydym wedi sicrhau bod ein modiwl dysgu ar-lein ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) ar gael i bawb (dros dro yn ystod y pandemig coronafeirws).

Mae ein hyfforddiant ar-lein 45 munud ar gael trwy fewngofnodi fel gwestai ar.

Siaradwch â ni nawr

Os ydych chi, aelod o’r teulu neu ffrind wedi dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol, cysylltwch â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 8010 800 i gael cyngor a chymorth 24 awr yn rhad ac am ddim, neu i drafod eich opsiynau.

Cysylltwch â chynghorwyr Byw Heb Ofn am ddim ar y ffôn, drwy sgwrsio ar-lein, neu drwy anfon neges destun neu e-bost.

Cysylltwch â ni nawr