Bwyta'n ddiogel yr haf hwn

Ond oeddech chi'n gwybod y dylech chi feddwl ychydig bach mwy am ddiogelwch bwyd yn ystod misoedd yr haf? Mae ymchwil newydd yn nodi y gallai pobl yn Blaenau Gwent fod yn rhoi eu hunain a'u teuluoedd mewn perygl o gael gwenwyn bwyd drwy ddiffyg gwybodaeth am yr Hanfodion Diogelwch Bwyd: Oeri, Coginio, Glanhau ac atal Croeshalogi.

Yn ôl Arolwg Bwyd a Chi yr Asiantaeth Safonau Bwyd, sy'n casglu gwybodaeth am ddiogelwch bwyd drwy 3,118 o gyfweliadau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon:

  • Roedd llai na hanner y bobl yng Nghymru yn dadmer cig a physgod yn yr oergell neu’r microdon yn unol â chanllawiau than (43%).  Er nad oedd y mwyafrif o bobl yn dadmer cig neu bysgod yn briodol, roedd cyfran uwch o bobl yng Nghymru yn dadmer bwyd yn unol â chanllawiau o gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig. 
  • Roedd traean (35%) o bobl yng Nghymru yn golchi cyw iâr amrwd. Mae risg o ledaenu bacteria wrth olch cyw iâr a dylid ei osgoi.
  • Mae un o bob deg ohonom (9%) yn bwyta cyw iâr neu dwrci hyd yn oed pan fo’r cig yn binc neu fod ganddo suddion pinc neu goch, a hynny o leiaf weithiau.
  • Dim ond hanner (50%) o’r bobl a holwyd a oedd yn gwirio tymheredd eu hoergell, ac roedd hyn yn oed llai (42%) yn gwybod y dylid cadw tymheredd yr oergell rhwng  0°C a 5°C.
  • Nid oedd chwarter (25%) yn defnyddio gwahanol fyrddau torri ar gyfer gwahanol fwydydd, sy’n cynyddu’r risg o ledaenu bacteria.

"Mae'r ffigurau hyn yn dangos bod mwy y gallai pobl yn Wales ei wneud er mwyn cadw eu hunain a'r rhai sydd agosaf atynt yn ddiogel yr haf hwn. Dyna pam fod Blaenau Gwent yn gweithio ar y cyd â'r Asiantaeth Safonau Bwyd i hyrwyddo arferion hylendid da yn ystod Wythnos Diogelwch Bwyd (19-25 Mehefin).  Eleni, nod yr wythnos yw annog pobl i fabwysiadu gwell arferion hylendid ar gyfer yr haf, pan fo risg gwenwyn bwyd yn cynyddu”

I gael cyngor ar sut i aros yn ddiogel yr haf hwn, ewch i: http://www.food.gov/bwyd-diogel-dros-yr-haf