Busnesau ym Mlaenau Gwent yn defnyddio'r cymorth busnes sydd ar gael i dyfu

Mae BG Effect Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau rhwydweithio llwyddiannus i helpu cefnogi busnesau lleol ym Mlaenau Gwent, yn fusnesau newydd a hefyd yn fusnesau sy'n bodoli eisoes. Cynhelir y digwyddiad rhwydweithio busnes nesaf ddydd Mawrth 24 Ionawr mewn partneriaeth gyda Google Digital Garage. Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar roi cyngor a chymorth digidol, busnes, marchnata ac ariannol i fusnesau.

Mae cwmni hysbysebu Harris and Dimes yn un o nifer o fusnesau a gefnogwyd drwy dîm adfywio'r Cyngor. Mae'r cwmni yng Nglynebwy yn darparu gwasanaethau hysbysebu megis ysgrifennu copi, ymgynghoriaeth, ffotograffiaeth a gwasanaethau dylunio ac argraffu.

Dywedodd Daniel Harris, Sefydlydd a Chyfarwyddwr Creadigol Harris and Dimes:

“Rwy'n credu fod y diwydiant marchnata a hysbysebu byd-eang wedi dod at groesffordd ddiddorol mewn blynyddoedd diddorol. Mae'n groesffordd sydd wedi gadael llawer o berchnogion busnes bach o amgylch y byd yn ddryslyd am sut y dylent fod yn marchnata eu busnes mewn amgylchedd menter sy'n newid yn barhaus a gyda chystadleuaeth newydd, ieuengach yn aml, i'w hwynebu. Nid yw Blaenau Gwent yn ddim eithriad i hyn.

"Mae busnesau ym Mlaenau Gwent, fel llawer o fwrdeisdrefi bach eraill, yn draddodiadol iawn mewn nifer o ffyrdd, yn cynnwys eu hymdrechion marchnata. Er bod llawer o fanteision o hyd i ddulliau marchnata traddodiadol, nid oes dim yn bwysicach yng nghylch marchnata busnes heddiw na phresenoldeb digidol. Faint bynnag yw maint neu natur eich busnes, mae angen cael presenoldeb digidol er mwyn cystadlu'n effeithlon gyda chystadleuwyr mwy ond gystadleuaeth leol hefyd. Mae llawer o fusnesau ym Mlaenau Gwent ac yn wir yng nghymoedd De Cymru yn gweithredu dydd-i-ddydd heb wefan neu hyd yn oed bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol, dwy gonglfaen marchnata busnes yn effeithlon yn 2017.

"Fodd bynnag, mae mentrau ym Mlaenau Gwent yn ffodus iawn gan fod cymuned rhwydweithio BG Effect ar gael iddynt. Gyda bron 1200 o fusnesau yng nghymuned Effect mae'n galluogi busnesau i gael eu cyfeirio at arbenigwyr mewn marchnata, hysbysebu a digidol ond hefyd i bontio'r bwlch rhwng ymdrechion traddodiadol neu hyd yn oed ddim ymdrechion marchnata i ddigidol mewn amgylchedd busnes diogel a chadarn. Mae BG Effect yn helpu busnesau yn yr ardal yr angen i gael presenoldeb digidol, mae hefyd yn sicrhau cefnogaeth busnesau marchnata a digidol lleol megis fy musnes i wrth fedru darparu'r gwasanaethau angenrheidiol."

Gall busnesau yn yr ardal, yn yr un modd â Harris and Dimes, fanteisio o'r sgiliau, cymorth ariannol a chyngor sydd ar gael drwy dîm adfywio Cyngor Blaenau Gwent a chynlluniau fel BG Effect i'w helpu i sefydlu busnes neu fynd â'ch busnes i'r lefel nesaf.

Mae digwyddiad BG Event ar 24 Ionawr yn gweithio gyda Google Digital Garage i roi arbenigedd digidol i fusnesau yn yr ardal. Bydd nifer o wasanaethau busnes eraill a ddarperir gan y Cyngor a'i bartneriaid hefyd ar gael yn y digwyddiad.

  • Dweud eich stori ar-lein – Dysgu sut i wneud i'ch gwefan ddisgleirio ar bob dyfais a gwella eich presenoldeb digidol drwy gyfryngau cymdeithasol, fideo ar-lein a chanfod eich busnes ar Google.
  • Cyrraedd cwsmeriaid newydd ar-lein – Dysgu sut i wneud eich busnes yn fwy amlwg ar-lein i helpu cwsmeriaid newydd i ddod o hyd i chi drwy optimeiddio chwiliad, rhestri lleol a marchnata peiriant chwilio.
  • Parth marchnata The Effect - Gwasanaethau cysylltiedig â marchnata ar gael gan fusnesau lleol.
  • Cymorth busnes ar-lein - Bydd cymorth busnes cyffredinol ar gael gan BG Effect, Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent a Busnes Cymru
  • Cymorth ariannol - Cymorth grant posibl gan Gyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent (grant Kick Start a Kick Start +).  
  • Gwasanaeth am ddim 'Blaenau Gwent Ar-lein' i helpu pobl ym Mlaenau Gwent i fynd ar-lein a manteisio i'r eithaf ar dechnoleg.
  • Rhwydweithio anffurfiol - Dysgu gan eraill, rhannu profiadau, cyngor a chymorth, cysylltiadau newydd, cyfleoedd masnachu lleol, cynhyrchu busnes
  • Cymorth arall –
  • Cyflymu Cymru i Fusnesau - gwasanaeth cymorth busnes a gyllidir yn llawn a all helpu busnesau i fanteisio i'r eithaf ar yr ystod o dechnolegau digidol sydd ar gael.
  • Busnes Cymru - Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau newydd a busnesau sydd eisoes wedi sefydlu yng Nghymru.

Cynhelir digwyddiad BG Effect ddydd Mawrth 24 Ionawr 2017, yn y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy (NP23 6AA)

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad ewch i: http://eventpilot.evolutive.co.uk/eventDetails.aspx?siteId=323&eventNo=18077

Mae mwy o wyodaeth am y digwyddiad ar gael yn: www.bgeffect.com

Mae mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i fusnesau presennol a busnesau newydd ar gael yn: www.blaenau-gwent.gov.uk