Busnes recordio lleol yn sicrhau cyllid Effaith BG

Mae Steelhouse Productions, yn cynnwys Steelhouse Education, hefyd yn cynnig gweithdai ymgyfoethogi technegol mewn amrywiaeth o osodiadau addysgol i hybu safonau, cymhwysedd digidol a rhoi eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o egwyddorion sain tra'n galluogi cyfranogwyr i ennill profiad ymarferol mewn cynhyrchu fideo a dylunio sain.

Mae Dean Richards a Jordan Day-Williams a benderfynodd fynd i bartneriaeth busnes, ill dau wedi gorffen eu graddau mewn Peirianneg Sain ym Mhrifysgol De Cymru yn ddiweddar a maent yn awyddus i ddefnyddio eu hangerdd am gerddoriaeth i sefydlu busnes lleol arloesol. Mae'r ddau ohonynt yn edrych ymlaen at ddarparu recordiau ansawdd uchel a dyblygu sain o'u cyfleuster cynhyrchu mewnol a chynnig profiad gofal cwsmeriaid unigryw o drefnu recordiad i dderbyn y cynnyrch terfynol wedi'i recordio.

Dywedodd Dean a Jordan "Rydym yn ddiolchgar iawn i Effaith BG am yr holl gefnogaeth ac areiniad a gawsom dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r grant wedi ein galluogi i brynu offer hanfodol ar gyfer dyblygu a phrintio CD sydd wedi rhoi'r dechrau gorau posibl i'n menter busnes newydd a bydd yn helpu i sicrhau llwyddiant ein busnes yn y dyfodol."

Gallwch ganfod mwy am y gwasanaethau mae Steelhouse Productions yn eu cynnig drwy ymweld â  www.steelhouseproductions.co.uk.

Ers ei lansio ym mis Tachwedd 2017, mae Cronfa Busnes Effaith BG wedi cefnogi 12 o fusnesau newydd ym Mlaenau Gwent a chaiff ei weinyddu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i dargedu'n benodol y rhai sy'n dymuno cychwyn eu busnesau eu hunain.

Gall unrhyw un sy'n ystyried cychwyn eu busnes eu hunain fynychu un o'r sesiynau galw heibio wythnosol i fusnesau a gynhelir mewn llyfrgelloedd o amgylch y fwrdeistref neu gysylltu'n uniongyrchol â'r Uned Datblygu Economaidd ar 01495 355700 i gael mwy o fanylion.

Dywedodd y Cyng Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd yng Nghyngor Blaenau Gwent: "Mae gan Effaith BG hanes ardderchog o lwyddiant mewn cefnogi busnesau newydd ac mae'r gefnogaeth i Steelhouse Productions yn enghraifft dda o hyn. Mae'r prosiect yn hanfodol i sefydlu a thwf busnesau bach a chanolig yn ein Bwrdeistref sydd â rhan bwysig yn y cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer ein hardal."