Blaenau Gwent yw'r lle i gychwyn eich busnes

Dros y pedwar mis diwethaf, mae fwy o fusnesau wedi cychwyn ym Mlaenau Gwent nag mewn 20 o'r ardaloedd awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.

Dengys gwybodaeth gan BankSearch Consultancy i 45.9% yn fwy o fusnesau gychwyn ym Mlaenau Gwent yn ystod pedwar mis cyntaf eleni, o gymharu gyda'r cyfnod cyfatebol y llynedd. Mae'r gyfradd twf yn rhoi Blaenau Gwent yn yr 2il safle allan o 22 ardal awdurdodau lleol Cymru.

Cychwyn Busnesau Bach*

Ebrill 2019

Cymhariaeth fisol

Cymhariaeth flynyddol

Cymhariaeth Blwyddyn hyd yma

Blaenau Gwent

25

-10.7%

31.6%

45.9%

Cymru

1,410

1.3%

7.8%

6.3%

*Data o adroddiad Ebrill 2019 -  BankSearch Consultancy Ltd

Mae teimlad o adnewyddu egni yn yr ardal a ni fu erioed fwy o gymorth ar gael ar gyfer cychwyn busnes newydd.

Un ffordd y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cefnogi busnesau yw drwy Gronfa Fusnes Effaith BG a alll gynnig cymorth grant hyd at £2,000 tuag at gostau cychwyn busnes ar gyfer unrhyw un sy'n ystyried cychwyn busnes newydd ym Mlaenau Gwent.

Mae'r cynllun grant a fu ar gael ers mis Tachwedd 2017 wedi cefnogi 25 o fusnesau newydd a 31 o swyddi llawn-amser mewn busnesau newydd ym Mlaenau Gwent sy'n amrywio o fasnachwyr unigol ym meysydd harddwch, ffotograffiaeth a gwasanaethau ariannol i gampfeydd cymunedol, bwyd a phrofion alergedd a darparwyr caffael ynni.

Mae Cronfa Effaith BG wedi cefnogi nifer o fusnesau newydd seiliedig ar lesiant ar draws y fwrdeistref yn cynnwys Simply Hair by Lisa; The Barber Lounge; Pampered to Perfection; Cabello Hair a Glitz N Glimmer Beauty.  Mae Cronfa Effaith BG hefyd wedi cefnogi y gwasanaethau proffesiynol newydd dilynol.

  • Mae PiQ Laboratories, sy'n seiliedig yn y Ganolfan Arloesedd ym Mlaenau Gwent, yn wasanaeth arbenigol profi am alergenau a dilysrwydd bwyd. Ers i'w grant gael ei gymeradwyo ym mis Mai, mae PiQ Laboratories wedi datblygu'n gyson i gyflogi 7 aelod o staff, gyda chynlluniau i recriwtio ar gyfer swydd weinyddol ran-amser a gwyddonydd iau.
  • Mae Bespoke Accounting Services Cyf yn seiliedig yn Nhredegar ac yn cynnig amrywiaeth o ddatrysiadau cyfrifeg ariannol ym Mlaenau Gwent. Mae gwasanaethau yn cynnwys hunanasesiad blynyddol, treth gorfforaeth, cyflogres, cyfrifon rheoli, gweithredu system gyfrifeg a gwasanaethau cyfarwyddwyr cyllid. Fe wnaeth cymorth grant gynorthwyo gyda deunydd hyrwyddo, cynnal gwefan a chelfi swyddfa.
  • Gwnaeth C.O.B.R.A. Music gais am Gronfa Effaith BG i gynorthwyo sefydlu busnes recordio ensemble cerddorol yng Nglynebwy. Roedd y busnes yn rownd derfynol Gwobr Cychwyn Busnes 2018 a manteisiodd o gyllid i brynu offer dyblygu ac argraffwyr CD. Maent wedi meithrin sylfaen cleientiaid cadarn yn cynnwys Cerddoriaeth Gwent, Coleg Crist Aberhonddu, Orffews Tredegar, Band Tylorstown a chorau lleol. 
  • Mae Community Fitness & Wellbeing Cyf yn Mrynmawr hefyd wedi manteisio o Gronfa Effaith BG ac mae wedi gweld cynnydd mawr mewn aelodau sy'n manteisio o ddefnyddio cyfleuster ffitrwydd yng nghanol y dref. Mae'r gampfa wedi datblygu'n gyson yn ei blwyddyn gyntaf ac wedi gwneud iechyd a llesiant yn fwy hygyrch i breswylwyr lleol gan gynnig cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer aelodau. Mae Grant Effaith BG wedi prynu offer campfa newydd yn cynnwys clychau tegell, setiau dymbel a system trosiant cebl.

Mae grantiau a ddyfarnwyd yn ddiweddar yn cynnwys Nicky’s Joinery, Energy Support Cyf, AJ Convenience Store, Gelato Treat Trike, Stained Glass by Katie ac EGNI Fitness Fun, sydd i gyd wedi manteisio o gyllid grant i gynorthwyo sefydlu a rhoi eu busnesau ar waith.

Os oes gennych syniad am fusnes newydd ac os hoffech fwy o wybodaeth am sut y gallai Cronfa Effaith BG gynorthwyo eich uchelgais menter, ffoniwch ni ar 01495 355700 neu anfon e-bost atom yn  business@blaenau-gwent.gov.uk