Blaenau Gwent yn dathlu Wythnos Menter Fyd-eang

Lansio Gwasanaethau Newydd i Gefnogi Entrepreneuriaeth Busnes
a
Dathlu Dwy Flynedd o'r Rhwydwaith Effaith


Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn dathlu Wythnos Genedlaethol Menter Fyd-eang gyda lansio chynlluniau newydd a dathlu dwy flynedd o'i Rwydwaith Effaith.

Cynhelir yr Wythnos Menter Fyd-eang rhwng 13-19 Tachwedd ac eleni bydd yn dathlu 10 mlynedd o helpu miliynau o bobl i ddefnyddio eu syniadau i ddechrau busnesau newydd. Dechreuodd Rhwydwaith Effaith Blaenau Gwent ddwy flynedd yn ôl gyda 46 o aelodau ac mae wedi tyfu i tua 180 o aelodau ar hyn o bryd.

Fel rhan o ddathlu'r llwyddiant hwn ac annog entrepreneuriaeth fyd-eang, ar 16 Tachwedd bydd Uned Datblygu Economaidd Blaenau Gwent yn cynnal digwyddiad Rhwydweithio Effaith. Bydd y noswaith yn cynnwys dathlu Rhwydwaith effaith a lansio cynlluniau newydd i gefnogi busnesau ym Mlaenau Gwent:

• Mynd yn ddigidol, mewn partneriaeth gyda Cyflymu Busnes Cymru. Gwybodaeth ar sut y gallwch adeiladu eich presenoldeb ar-lein
• Lansio'r cynlluniau dilynol:
o Yr Hyb Busnes - llwyfan digidol newydd am ddim yn galluogi busnesau lleol a busnesau sy'n cychwyn arni i gael mynediad i gymorth busnes, cysylltu gyda'i gilydd a darganfod cyfleoedd lleol. Bydd yr Hyb yn cynnig gwasanaeth llawn, cyfredol, rhyngweithiol a chynhwysfawr i fusnesau a busnesau sy'n cychwyn arni ym Mlaenau Gwent.
o Gwobrau Busnes Blaenau Gwent - cyhoeddir categorïau a sonnir am gyfleoedd nawdd posibl. Bydd y digwyddiad yn dathlu llwyddiant busnesau lleol.
o Cronfa Effaith Busnes i gefnogi busnesau newydd - cyhoeddir cynllun newydd yn y digwyddiad gyda'r nod o ddarparu cymorth ariannol i fusnesau.

Bydd mwy o wybodaeth am yr Hyb Busnes, Gwobrau Busnes Blaenau Gwent a Chronfa Fusnes Effaith ar gael yn dilyn y digwyddiad.

Manylion y Digwyddiad:

Dydd Iau 16 Tachwedd 5- 7.30pm
Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6AA
Cliciwch ar y ddolen islaw i archebu eich lle: http://eventpilot.evolutive.co.uk/eventDetails.aspx?siteId=323&eventNo=63581


Bydd cymorth ar gael ar y noswaith hefyd gan Effaith BG, Adran Datblygu Economaidd Blaenau Gwent, Busnes Cymru a Cyflymu Busnes Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

“Mae'r Cyngor yn falch i gefnogi'r digwyddiad cenedlaethol hwn sy'n helpu dathlu a chefnogi entrepreneuriaeth ym Mlaenau Gwent. Bydd digwyddiad Rhwydweithio Effaith yn nodi'r dathliad hwn a bydd yn noswaith gyffrous i fusnesau. Byddwn yn tynnu sylw at eu llwyddiant ac yn annog twf busnesau o fewn yr ardal, yn ogystal â chyhoeddi cynlluniau newydd fydd yn rhoi mwy o gefnogaeth i fusnesau newydd a phresennol. Byddwn yn annog busnesau i archebu eu lleoedd. Bydd Tîm Economaidd Blaenau Gwent hefyd yno i roi cefnogaeth a chyngor i'ch busnes .”