Blaenau Gwent yn dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid

Mae'r Wythnos Gwaith Ieuenctid yn ddigwyddiad blynyddol a gafodd ei greu i ddathlu llwyddiannau pobl ifanc a hyrwyddo manteision ac effaith gwaith y Gwasanaeth Ieuenctid ar draws Cymru. Dechreuodd yr wythnos ddydd Gwener 23 Mehefin gyda Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yng Nghymru Llywodraeth Cymru. Roedd prosiect Ysbrydoli i Gyflawni Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent ar y rhestr fer am y 3 olaf ar gyfer Gwobr Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Yn ystod yr wythnos mae Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent yn trefnu digwyddiadau ychwanegol i hyrwyddo'r wythns.

Mae'r rhain yn cynnwys

Cynhadledd Ranbarthol Gwaith Ieuenctid

Dydd Mawrth 27 Mehefin 6-9pm, Llancaiach Fawr, Caerffili

Trefnwyd Cynhadledd Ranbarthol Gwaith Ieuenctid rhwng Gwasanaethau Iechyd y 5 Awdurdod Lleol: Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen. Cynhaliwyd y gynhadledd bob blwyddyn am y tair blwyddyn ddiwethaf, ac fe'i defnyddir fel cyfle i ddod â gweithwyr ieuenctid ar draws y rhanbarth at ei gilydd. Yn y gynhadledd bydd gweithwyr ieuenctid yn rhannu arfer da, yn dynodi meysydd ar gyfer gweithio traws-ffin ac yn dynodi anghenion hyfforddiant y gellir eu trin ar draws y rhanbarth. Mae pobl ifanc hefyd yn cael cyfle i gyflwyno peth o'u gwaith. Mae hyn yn golygu,er bod pob Gwasanaeth Ieuenctid yn wahanol, gall pobl ifanc ddisgwyl darpariaeth o'r un ansawdd a chael mynediad i fathau tebyg o gefnogaeth lle bynnag yr ânt yn y rhanbarth.

Noswaith Wobrwyo Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent

Dydd Iau 29 Mehefin, 6.30-9pm, Sefydliad Llanhiledd, Abertyleri

Mae noswaith Gwobrau Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent yn ddigwyddiad i ddathlu llwyddiannau pobl ifanc sy'n mynychu'r Gwasanaeth Ieuenctid drwy gydol y flwyddyn. Noddwyd y digwyddiad gan Gylchffordd Cymru ac Anelu'n Uchel Blaenau Gwent. Bydd pobl ifanc o bob prosiect yn ennill gwobr gyda thri o bobl ifanc yn ennill teitl Dysgwr Gwasanaeth Ieuenctid y Flwyddyn, Gwirfoddolwr Gwasanaeth Ieuenctid y Flwyddyn a Pherson Ifanc Eithriadol Gwasanaeth Ieuenctid y Flwyddyn. Mae hefyd wobr am Weithiwr Ieuenctid y Flwyddyn.

Clybiau Ieuenctid

Mae gan Wasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent dri Chlwb Ieuenctid sy'n rhedeg yn ystod y tymor yn cynnig cyfle i bobl ifanc wneud ffrindiau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau hwyliog. Cynhelir y Clybiau Ieuenctid yn Abertyleri, Brynteg a Cwm.

Abertyleri – Dyddiau Mercher a dyddiau Iau 6-8pm

Glynebwy – Dyddiau Llun a dyddiau Mercher 6-8pm

Cwm – Dyddiau Llun a dyddiau Mercher 6-8pm

Clwb Ieuenctid Merched yn Unig – Dyddiau Mawrth 6-7pm, Abertyleri

Dyfodol Cadarnhaol

Mae gweithwyr ieuenctid yn gweithredu mewn amrywiaeth o osodiadau yn darparu cefnogaeth grŵp ac un i un i bob l ifanc. Mae hyn er mwyn cynorthwyo gyda'u datblygiad personol ac felly ostwng ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Grwpiau ysgol - Dyddiau Llun a dyddiau Mercher

Grwpiau min nos - Dyddiau Mawrth a dyddiau Mercher 5-7pm, clwb ieuenctid Cwm

Ysbrydoli i Gyflawni

Prosiect 11-16 a gyllidir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop gyda gweithwyr ieuenctid yn cefnogi pobl ifanc 11-16 yn ysgolion uwchradd Blaenau Gwent i wella presenoldeb, cyrhaeddiad, ymddygiad ac iechyd a llesiant. Mae pobl ifanc yn creu cynlluniau gweithredu unigol i gyrraedd eu potensial.

Mae'r gweithgareddau yn cynnwys sesiynau cefnogaeth un i un, gweithgareddau grŵp strwythuredig a chlybiau/grwpiau mynediad agored.

Mae Gweithiwr Ieuenctid Ysbrydoli i Gyflawni ym mhob ysgol a Chanolfan yr Afon

Prosiect Garddio - pob ysgol a'r Uned Cyfeirio Disgyblion (Canolfan yr Afon)

Ysbrydoli i Weithio

5 Gweithiwr Ieuenctid Ysbrydoli i Weithio yn cefnogi pobl ifanc i fynd i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant.

Prosiect Ysbrydoli Newidiadau, yn lansio dydd Gwener 30 Mehefin - Canolfan Ieuenctid Abertyleri

Gwaith Stryd Datgysylltiedig

Dyddiau Iau a dyddiau Gwener 4.30-8pm

Mae Gweithwyr Ieuenctid Datgysylltiedig yn cwrdd ac yn cysylltu gyda phobl ifanc ar eu tiriogaeth eu hunain lle maent yn treulio amser ym Mlaenau Gwent tu allan i oriau ysgol. Gallai hyn fod ar y strydoedd, mewn caffes a pharciau neu mewn gorsafoedd rheilffordd a gorsafoedd bysus.

Dyddiau Gwener Pêl-droed am ddim

Canolfan Hamdden Glynebwy 6-7.30pm

Dywedodd Jo Sims, Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

“Mae'r Gwasanaeth Ieuenctid yn darparu wythnos llawn hwyl o weithgareddau yn ogystal â'i galendr rheolaidd ac yn dathlu gwaith ardderchog y Gwasanaeth Ieuenctid, gan gydnabod llwyddiannau pob person ifanc drwy gydol y flwyddyn. Caiff pobl ifanc eu portreadu mewn golau negyddol ac mae hyn yn gyfle i ddathlu'r pethau ardderchog a chadarnhaol a wnaethant drostynt eu hunain a'u cymuned."

I gael manylion pellach am y digwyddiadau hyn, cysylltwch â Joanne Sims ar 01495 357866 / 07772 755435 neu e-bost Joanne.Sims@blaenau-gwent.gov.uk.