Blaenau Gwent yn cyrraedd targed ailgylchu a osodwyd gan Lywodraeth Cymru

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi cyrraedd ei darged ailgylchu ar gyfer 2019-20 a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Cafodd adroddiad ei gyflwyno a’i dderbyn mewn cyfarfod o Bwyllgor Craffu y Cyngor (ddydd Llun 21 Medi) ac mae’n croesawu’r ffigur gan gadarnhau i Flaenau Gwent gyrraedd ei darged ailgylchu o 65.31%, gan ragori ar y targed o 64% a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn rhoi Blaenau Gwent yn y 11eg safle yn gyffredinol yng Nghymru o gymharu gydag awdurdodau lleol eraill Cymru.

Dywedodd y Cyng Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

“Rwy’n falch tu hwnt o’n perfformiad ailgylchu. Rydym wedi adeiladu ar lwyddiant y llynedd ac yn parhau i gynyddu ein perfformiad bob blwyddyn. Cafodd hyn ei gyflawni drwy waith caled ac ymroddiad. Hoffwn ddiolch i’n preswylwyr am barhau i ailgylchu a meddwl mwy am sut y maent yn cael gwared o’u gwastraff, a hefyd longyfarch ein gweithwyr rheng flaen ailgylchu a gwastraff a ddaliodd ati i weithio drwy gydol y cyfnod anodd hwn. Gall pawb ohonom wneud gwahaniaeth ac mae pob un person sy’n ailgylchu eu gwastraff yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, drwy arbed ynni a gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr.

“Bydd targed Llywodraeth Cymru yn cynyddu i 70%. Gellir gwneud mwy o hyd a byddwn yn hoffi annog ein preswylwyr i ddal ati i ailgylchu.

“Gellir ailgylchu a gwaredu â’r rhan fwyaf o’ch gwastraff bob wythnos. Os yw preswylwyr angen blychau ychwanegol neu gefnogaeth ar yr hyn y gellir ei ailgylchu, gallant ymweld â gwefan y Cyngor neu gysylltu â C2BG”.

I wneud cais am flychau ychwanegol neu gymorth, ewch i Fy Ngwasanaethau Cyngor yn www.blaenau-gwent.gov.uk neu gysylltu â C2BG ar 01495 311556