Blaenau Gwent i edrych ar Gyfleuster Ailgylchu Gwastraff Pren Rhanbarthol

Mae Pwyllgor Gweithredol y Cyngor wedi cymeradwyo adroddiad i symud ymlaen â’r achos busnes amlinellol ar gyfer datblygu Cyfleuster Ailgylchu Gwastraff Pren Rhanbarthol i’r cam nesaf.

Ar hyn o bryd caiff gwastraff pren o gartrefi ei gasglu mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi a’i ail-brosesu (h.y. ailgylchu) ar safleoedd a weithredir gan gontractwyr preifat.

Mae’r achos busnes amlinellol yn edrych ar bosibilrwydd cyfleuster cyhoeddus mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.

Wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, byddai’r Cyfleuster Ailgylchu Pren Rhanbarthol yn cael ei leoli yn y Cwm Tawel a’i weithredu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar ran grŵp o awdurdodau lleol.

Bydd datblygu’r Cyfleuster Ailgylchu Gwastraff Pren yn gostwng yr effeithiau amgylcheddol sy’n gysylltiedig gyda rheoli gwastraff pren yn Ne Cymru, ac yn cyfrannu’n sylweddol at adnoddau presennol a thargedau ailgylchu statudol Cymru.

Dywedodd y Cyng Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

“Rydym wrthi’n edrych sut y gallai’r Cyngor a’i bartneriaid ddatblygu eu Cyfleuster Ailgylchu Gwastraff Pren eu hunain. Mae’r manteision yn cynnwys arbedion sylweddol i awdurdodau lleol, er enghraifft drwy ostwng milltiroedd a chostau cludo yn ogystal â buddion amgylcheddol, gostwng allyriadau CO2 a NO2 yn gysylltiedig gyda chludo a thrin pren gwastraff. Byddai cyfleuster o’r fath hefyd yn cefnogi ein targedau ailgylchu a’n hymrwymiad i agenda Carbon Isel Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â newid hinsawdd.”