Benthyciadau i helpu dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.

Bydd cymorth benthyciad cartrefi ym Mlaenau Gwent yn awr yn cynnwys y gwasanaethau dilynol:

• Benthyciadau di-log i landlordiaid - ar gyfer adeiladau is na'r safon neu wag ar werth neu ar rent. Gweithio i ddod ag adeilad gwag yn ôl i ddefnydd.

• Benthyciadau di-log i berchen breswylwyr - ar gyfer adeiladau is na'r safon neu wag a fwriedir ar gyfer perchen-breswyliaeth. Gweithio i ddod ag adeilad gwag yn ôl i ddefnydd.

• Benthyciadau arbrisiant eiddo - cynnyrch benthyciad cyfran ecwiti newydd ym Mlaenau Gwent ar gyfer perchen-breswylwyr, na allai fel arall fforddio talu am y gwaith trwsio fydd ei angen yn y dyfodol i'w galluogi i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain a/neu mewn amgylchedd diogel, cynnes a sicr. 

Dywedodd y Cynghorydd Garth Collier, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd:

“Dros y chwe mlynedd diwethaf cawsom gryn lwyddiant mewn darparu cymorth ariannol i helpu dod ag adeiladau gwag yn ôl i i'w defnyddio fel anheddau a bydd y gwaith yma'n parhau. Gallwn yn awr hefyd gynnig benthyciadau trwsio cartref newydd a dargedwyd at bobl na fyddai fel arall wedi medru cyllido atgyweiriadau hanfodol, gyda'r Cyngor yn talu am holl ffioedd sefydlu benthyciadau.”

Bydd mwy o wybodaeth am y gwasanaethau ar gael yn y dyfodol agos ar wefan y Cyngor: www.blaenau-gwent.gov.uk”.

Mae'r adroddiad llawn ar gael ar y ddolen ddilynol:
http://democracy.blaenau-gwent.gov.uk/aksblaenau_gwent/images/att8559.pdf