Awgrymwch safleoedd ar gyfer datblygiad ym Mlaenau Gwent

Mae dyletswydd ar Gyngor Blaenau Gwent i gynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) i arwain y defnydd o dir a datblygiad o fewn y Fwrdeistref.  Mae’r CDLl ar gael tan 2021 ac mae Cynllun diwygiedig yn cael ei baratoi a fydd yn gosod canllawiau ar gyfer datblygu tir o fewn Blaenau Gwent tan 2033.

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn galw ar ddatblygwyr, tirfeddianwyr a’r cyhoedd i gyflwyno safleoedd a allai gael eu cynnwys ar gyfer datblygiadau newydd, ail-ddatblygiadau neu i’w gwarchod  fel rhan o CDLl Diwygiedig.  Gallai hyn fod ar gyfer unrhyw ddefnydd tir gan gynnwys preswylio, cyflogaeth, addysg, hamdden, cyfleusterau cymunedol eraill, manwerthiant, twristiaeth, teithwyr a sipswn, mwyngloddiau a gwastraff a thechnoleg ynni adnewyddol.

Ni ellir gwarantu y bydd pob safle a awgrymir ar hyn o bryd yn mynd rhagddo.  Serch hynny, bydd eu cyflwyno yn galluogi’r Cyngor i asesu addasrwydd ac argaeledd yr ardaloedd hyn.  Gellir wedyn ddefnyddio’r wybodaeth hon wrth lunio strategaeth ar gyfer datblygu safleoedd yn y dyfodol ar hyd a lled y Fwrdeistref.

I enwebu safle ar gyfer ystyriaeth, rhaid cyflwyno cynllun a ffurflen gyflwyno safle.  Mae copïau o’r ffurflen ar gael gan y Tîm Cynlluniau Datblygu wedi’i leoli yn y Ganolfan Ddinesig – Glyn Ebwy, yn Llys yr Eingion – Abertyleri, ym mhob llyfrgell leol neu ar wefan ddiwygiedig y Cynllun Datblygu Lleol.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno safleoedd yw Dydd Iau, Ionawr 24, 2019.  Mae swyddogion ar gael i helpu gyda chwblhau’r ffurflenni.

Am ragor o wybodaeth, cysyllter â’r Tîm Cynlluniau Datblygu ar 01495 355538 neu ebostiwch planningpolicy@blaenau-gwent.gov.uk