Autografik yn mynd ar yr hewl

Mae'r rocer Adam Owens a'i gyfaill Joel Withey wedi lansio busnes graffeg newydd yn Nhredegar.

Mae prif leisydd The Caspien a'i gyfaill wedi cael eu busnes newydd - Autografic - ar yr hewl gyda chefnogaeth gan Gronfa Kickstart.

Mae Autografic yn cynnig dewis eang o graffeg ar gyfer llawer o ddeunyddiau, ond mae'n arbenigo mewn cerbydau. "Mae busnesau'n sylweddoli mai eu cerbyd yw'r hysbyseb symudol orau y gallant ei chael, felly maent eisiau manteisio i'r eithaf ohoni, " meddai Joel.

"Mae'n ffordd ardderchog i hyrwyddo busnes a sicrhau y caiff eich enw ei weld. Mae'ch cerbyd yn dod yn hysbysfwrdd."

Yn ogystal ag ochr cerbydau'r busnes, mae Autografik yn cynnig arwyddion a brandio cyfryngau cymdeithasol.

Mae'r busnes wedi derbyn cefnogaeth gan Gronfa Kickstart a gaiff ei rhedeg ar y cyd gan Gyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent ac UK Steel Enterprise, is-gwmni Tata Steel. Bu BG Effect hefyd yn ganolog wrth roi cymorth i sefydlu'r busnes newydd.

Dywedodd y Cyng Jim McIlwee, Dirprwy Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent: "Rwyf wrth fy modd ein bod yn cefnogi busnes arall o fewn Blaenau Gwent. Mae cynllun Kickstart yn rhoi grantiau i fusnesau newydd a busnesau presennol. Mae nifer o fusnesau wedi ennill y grant dros y blynyddoedd i'w helpu i sefydlu a thyfu.

"Yn ogystal â grantiau, mae gan adran adfywio'r Cyngor yn Cyng ystod eang o wasanaethau i gefnogi busnesau newydd a busnesau presennol megis rheoli uned eiddo a chyngor ar fusnes a buddsoddi. Mae mwy o wybodaeth ar y gwasanaethau y gallwn eu cynnig ar gael yn www.blaenau-gwent.gov.uk”.